Clwb Rygbi yn y Rhondda yn taclo unigrwydd dros y Gaeaf
Clwb Rygbi yn y Rhondda yn taclo unigrwydd dros y Gaeaf
Mae tîm rygbi cyffwrdd yn Rhondda Cynon Taf yn gobeithio brwydro unigrwydd a heriau iechyd meddwl yn ystod nosweithiau tywyll y Gaeaf.
Cafodd tîm rygbi cyffwrdd y Rhondda Bulls ei sefydlu'r llynedd, ac yn ôl un o’r sylfaenwyr, Chris McGaughey (uchod), 37, mae’r tîm wedi bod yn achubiaeth i bobl o bob math yn y gymdeithas.
“Mae’r gymuned leol yn bwysig iawn i ni, dyna pam ydyn ni yn agored i bawb," meddai.
"Chi ddim angen wedi chwarae o’r blaen. Mae ar agor i bawb, unrhyw sydd eisiau chwarae rygbi.”
Mae’r tîm yn cynnwys aelodau o’u 20au hyd at bobl yn eu 60au, yn ddynion ac yn fenywod.
“Rydyn ni eisiau cefnogi'r gymuned leol," meddai Chris McGaughey.
"Mae 'na rhai pobl sydd ddim yn gweithio, mae rhai pobl sydd ddim yn mynd allan lot. So ni eisiau dod a phobl allan i neud rhywbeth sydd yn bositif.”
Yn ôl ystadegau newydd gan Age UK, bydd dros 1.5 miliwn o bobl hŷn yn treulio’r Nadolig ar eu pen eu hunain.
Yn ogystal, mae nifer y bobl ifanc sy’n profi unigrwydd yn codi, gyda 9% o bobl rhwng 21 - 35 oed yn treulio diwrnod Nadolig ar eu pennau eu hunain y llynedd.
Yn ôl Chris, mae’r clwb wedi dod yn bwysicach fyth yn ystod nosweithiau hir y gaeaf, gyda’r nifer sy’n mynychu'r gemau a'r hyfforddi ar gynnydd.
“Yn enwedig yn y Rhondda, dros y Gaeaf pan mae’n oer ac yn wlyb a does dim llawer i wneud," meddai.
"Rydyn ni rili lwcus yn y cymoedd bod gennym ni caeau 4G felly ni’n gallu chwarae hyd yn oed pan mae’n wyntog ac yn bwrw glaw.”
Ymunodd Gwynfor Jones, 21, y Rhondda Bulls flwyddyn ddiwethaf.
Mae'n dweud bod y Rhondda Bulls wedi bod yn ffordd bositif o dreulio’u nosweithiau, gan ddweud bod y cyfleoedd fel arall yn y cymoedd yn brin.
“Does dim llawer o gwbl i wneud yma," meddai. "Os byse fi ddim fan hyn heno, byswn i yn y gwely yn gwylio ffilm.
“Doeddwn ni ddim yn gwneud dim chwaraeon…. Wnes i ymuno flwyddyn ddiwethaf ar gyfer fy iechyd meddwl. Dwi wir yn mwynhau ac wedi gwneud llawer o ffrindiau”.
Yn ôl Nicola Owen, 51, oedd yn arfer chwarae rygbi, mae’r tîm wedi’u gallougi i barhau i wneud ymarfer corff a chymdeithasu hefyd.
Mae'n mwynhau dod allan i gymdeithasu ac i fod yn rhan o dîm, meddai.
“Roedd lot ohonom ni arfer chwarae rygbi undeb, ond ry’n ni’n rhy hen nawr neu gydag anafiadau, ac mae hwnna yn effeithio iechyd meddwl," meddai.
“Mae cael cyfle fel hyn i chwarae yn helpu ni, ac mae’n neis cael bod yn rhan o dîm eto."