Pride Berlin: Dyn dan amheuaeth o yrru car i mewn i dorf wedi ei saethu'n farw
Mae dyn sydd o dan amheuaeth o yrru car i mewn i dorf ger dathliadau Pride Berlin wedi cael ei saethu'n farw gan yr heddlu.
Nododd datganiad gan heddlu'r ddinas bod y dyn wedi ei ddarganfod mewn rhandir yn ardal Spandau yng Ngorllewin Berlin am 18:00 amser lleol nos Sul.
Yn y diweddariad, dywedodd yr heddlu eu bod nhw'n credu i'r dyn "ruthro tuag at y gwasanaethau brys gydag arf trywanu."
Wedi hynny, cafodd heddlu arfog eu galw.
"Er i Adran Dân Berlin geisio achub bywyd y dyn yn syth, bu farw yn y fan a'r lle," dywedodd llefarydd.
Mae menyw wedi marw ac o leiaf 29 o bobl o ganlyniad i'r ymosodiad nos Sadwrn.
Digwyddodd hynny ym Mharc Tiergarten, ger Porth Brandenburg, ychydig cyn 22:00 nos Sadwrn.
Yn ôl Gweinidog Mewnol yr Almaen, Alexander Dobrindt, fe aeth yr ymosodwr allan o'r cerbyd ac ymosod ar bobl gyda llafn.
Fe darodd y cerbyd gwyn goeden cyn i’r sawl oedd yn ei yrru ffoi o’r safle.
Mae nifer o'r rhai sydd wedi eu hanafu mewn cyflwr difrifol.
Ymdrech chwilio
Yn gynharach heddiw, roedd yr heddlu ac erlynwyr yn chwilio am ddyn 21 oed, o'r enw Abdul B.
Cafodd ei eni yn Yr Almaen yn 2005, ac mae aelodau o'i deulu yn dod o Libanus.
Yn ôl y llywodraeth, roedd e wedi ei ddedfrydu i garchar am flwyddyn a 10 mis, ond cafodd hynny ei newid i gyfnod ar barôl.
Ceisiodd yr erlynydd cyhoeddus apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw, yn ôl y gweinidog Alexander Dobrindt.
Dywedodd yr heddlu fod gan y dyn gysylltiadau ag Islamiaeth eithafol.
Daeth digwyddiadau Christopher Street Day, gan gynnwys cyngerdd, i ben yn gynnar wedi'r gyflafan.
Roedd cannoedd o filoedd o bobl wedi ymgynnull yn y ddinas ar gyfer un o ddathliadau Pride mwyaf Ewrop.
Dywedodd Canghellor yr Almaen, Friedrich Merz, fod yr hyn ddigwyddodd yn weithred erchyll ac addawodd ymchwiliad llawn.
Dywedodd Maer Berlin, Kai Wegner, mai ymosodiad oedd hwn ar gymdeithas rydd ac agored y ddinas.
Mae miloedd wedi ymgynnull ym Mhorth Brandenburg brynhawn Sul i gynnal gwylnos.
