Canser y prostad: Galw am driniaeth arloesol i gleifion Cymru fel sydd yn Lloegr

Newyddion S4C

Canser y prostad: Galw am driniaeth arloesol i gleifion Cymru fel sydd yn Lloegr

Mae ‘na alw am i ddynion yng Nghymru sydd â chanser y prostad gael mynediad i’r un driniaeth arloesol â dynion yn Lloegr. 
 
Mae treialon diweddar yn awgrymu bod therapi ffocal yr un mor effeithiol â thriniaethau eraill i’r cyflwr, ond heb lawer o’r sgil effeithiau. 
 
Ond dydy’r driniaeth newydd ddim ar gael yng Nghymru. 
 
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn trafod cynnwys cleifion o Gymru mewn treialon pellach. 
 
Cafodd Gari Wyn o Gaernarfon ddiagnosis canser y prostad y llynedd. 
 
Dim ond trwy wneud ei ymchwil ei hun y dysgodd am therapi ffocal gan fynd i glinig yn Llundain i’w derbyn. 
 
“Ar hyn o bryd mae pethau’n edrych yn bositif i mi. A’r peth mawr ydy os ydych chi'n cael focal therapy, mae gynno chi’r dewis wedyn o’i ail-wneud mewn pedair neu bum mlynedd," meddai.
 
“Lle os ydach chi’n cael radiotherapi neu gael tynnu’r prostad, does ’na ddim ffordd yn ôl ac mae sgil-effeithiau’n gallu dod efo hynny.”
 
Mae therapi ffocal yn medru targedu rhannau bychain iawn o’r prostad gyda gwres uchel iawn. 
 
Radiotherapi neu lawdriniaeth i dynnu’r prostad ydy’r triniaethau mwyaf cyffredin hyd yma i’r canser hwnnw. 
 
Ond yn ôl ymchwil 10 mlynedd gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar, mae therapi ffocal yn medru bod yr un mor effeithiol, ond heb lawer o’r sgil effeithiau. 
 
'Aros am y data'
 
Yn ôl y llawfeddyg iwrolegol Rowland Rees, mae canlyniadau’r ymchwil yn galonogol. 
 
“Lan hyd nawr mae’r driniaeth wedi bod yn weddol arbrofol. Dyw hwn ddim yn established therapi, mae’n rhywbeth mae’r bobl fwyaf innovative, early-adopters, wedi bod yn ei ddefnyddio.”
 
“Dyw e’ ddim yn rhywbeth gwael bod e’ ddim wedi dod i Gymru achos mae lot o ddoctoriaid yn aros am y data.
 
“Mae’r arbrofion wedi cael eu gwneud yn Lloegr. Ond nawr mae’r driniaeth wedi cael ei ddangos i fod yn dda, bydd llawer mwy o ganolfannau’n edrych ar focal therapy."
 
Dydy’r corff sy’n cymeradwyo triniaethau ar y gwasanaeth iechyd, NICE, ddim wedi rhoi sêl bendith hyd yma i therapi ffocal ar gyfer canser y prostad. 
 
Mae 10 canolfan yn Lloegr, ger Llundain yn bennaf, yn cynnig y driniaeth ar hyn o bryd. 
 
Mae’r llywodraeth yno wedi cyhoeddi arian i ehangu’r ddarpariaeth fel rhan o dreialon newydd ar gyfer cynllun sgrinio. 
 
'Blaenoriaethu'
 
Fe ddylai’r driniaeth fod ar gael i ddynion yng Nghymru hefyd, medd Gari Wyn. 
 
“Mi ddylia hwn gael ei flaenoriaethau am y ffaith syml mai dyma’r canser mwyaf cyffredin mewn dyn," meddai.
 
“Ac ar hyn o bryd dim ond Lloegr sy’n cael defnydd o’r driniaeth. ‘Di o ddim yn digwydd yn yr Alban, ‘di o ddim yn digwydd yng Nghymru.
 
“Nid cwestiwn o arian ydy o, cwestiwn o be’ ‘di hawl pobl Cymru. Achos ar hyn o bryd be’ s’genno ni ydy post code lottery.”
 
'Achub bywydau'
 
Mae Iwan Roberts o elusen Ymchwil Canser Cymru yn dweud bod angen i’r triniaethau diweddaraf fod ar gael yma. 
 
“Mae’n hanfodol bwysig bod triniaeth newydd ar gael trwy’r amser. Mae canser ar gynnydd yng Nghymru," meddai.
 
“Felly mae triniaethau newydd, yn arbennig rhai sy’n fwy caredig i’r corff, sy’n cymryd llai o amser i’r claf wella ohonyn nhw, yn mynd i apelio fwy at bobl.
 
“Felly mae triniaethau newydd yn medru achub bywydau.”
 
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Ynghyd ag Iechyd a Gofal Ymchwil Cymru, rydym yn trafod y posibilrwydd o gynnwys cleifion o Gymru yn yr astudiaeth gyda tîm y treial.
 
“Ar gyfer dynion sy’n cyflwyno â symptomau canser, rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ddarparu gofal yn unol ag ymarfer clinigol a argymhellir.
 
“Nid yw’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell therapi ffocal ar hyn o bryd fel gofal safonol ar gyfer trin canser cyfyngedig y prostad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.