Cyhuddo dau ddyn o geisio llofruddio yn y Rhyl
Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o geisio llofruddio yn y Rhyl ar ôl i ddyn arall ddioddef anafiadau difrifol.
Cafodd y dyn anafiadau difrifol wedi digwyddiad ar Stryd y Baddon yn y dref ar 23 Gorffennaf.
Fe gafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae Gareth Marc Griffith, 32 oed, o'r Rhyl a bachgen 17 oed, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi cael eu cyhuddo o geisio llofruddio.
Mae'r ddau hefyd wedi eu cyhuddo o fod mewn meddiant llafn miniog mewn man cyhoeddus.
Bydd y ddau yn ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
Dywedodd yr heddlu bod eu hymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau.