Pobl mewn cymunedau gwledig ‘5% yn llai tebygol o oroesi canser’
Mae pobl sy’n byw mewn cymunedau gwledig 5% yn llai tebygol o oroesi canser na phobl mewn ardaloedd trefol, yn ôl rheolwr elusen sy’n cefnogi teuluoedd ffermio.
Dywedodd Linda Jones o The Farming Community Network, neu FCN, fod rhai ffermwyr yn gohirio mynd at y meddyg oherwydd pwysau gwaith.
“Amser mae ffermwyr yn cael eu diagnosis, maen nhw yn stage three, stage four, beth bynnag, oherwydd maen nhw ’di rhoi popeth arall ar y ffarm o flaen iechyd eu hunain.”
Mae FCN wedi cyhoeddi canllaw dwyieithog newydd i helpu teuluoedd ffermio sydd wedi’u heffeithio gan ganser.
Cafodd Canllaw i Deuluoedd Ffermio sydd wedi’u Heffeithio gan Ganser ei gyhoeddi yn Sioe Frenhinol Cymru.
Mae’r canllaw wedi’i ddatblygu gan bobl o’r gymuned amaethyddol sydd â phrofiad uniongyrchol o ddiagnosis, triniaeth ac adferiad.
Mae’n cynnig cyngor ar gydbwyso triniaeth â gwaith y fferm, cynllunio ar gyfer y dyfodol a dod o hyd i gymorth.
‘Y fferm o flaen iechyd’
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Linda Jones fod rhai ffermwyr yn aros i weld a fydd eu symptomau’n gwella yn hytrach na mynd at y meddyg.
“Maen nhw’n meddwl, ‘O, oce. Gewn ni weld shwt ma’n teimlo fis nesa.’
“Os na fydda i’n well, falle â i’r doctor.”
Dywedodd fod gwaith fferm yn parhau waeth beth yw iechyd y ffermwr.
“Mae ffermwyr yn rhoi eu hanifeiliaid o flaen iechyd eu hunain.
“Os oes rhywbeth yn bod ar fuwch neu ddafad neu rywbeth, bydden nhw’n ffonio’r milfeddyg yn syth.
“Ond gydag iechyd eu hunain, dyn nhw ddim wastod yn neud ’na.”
Mae FCN yn dweud bod ffermwyr a phobl mewn ardaloedd gwledig yn gallu cael llai o fynediad at wasanaethau canser oherwydd natur eu gwaith, pellteroedd hir ac unigrwydd rhai cymunedau.
Dywedodd Linda Jones fod amseroedd apwyntiadau, signal ffôn gwael a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn gallu creu rhwystrau.
“Does neb yn ardal gwledig yn dweud bod nhw’n gallu mynd i driniaethau yn unman ar y trafnidiaeth gyhoeddus.
“Mae pawb yn gorfod dibynnu ar ffrindiau neu deulu i fynd yno a dod nôl.”
Triniaeth yn ystod wyna
Mae Carol Hope, ffermwr defaid o Geredigion, wedi rhannu ei phrofiad o gael diagnosis o ganser y fron ac mae'i stori wedi ei gynnwys yn y canllaw.
Fe sylwodd ar lwmp yn ei bron ar noswyl Nadolig 2021.
Ar ôl cael mammogram, scan uwchsain a biopsi, cafodd wybod bod ganddi ganser y fron.
Dechreuodd chwe mis o gemotherapi ym mis Mawrth, yng nghanol y cyfnod wyna.
Cafodd lawdriniaeth i dynnu bron a radiotherapi yn ddiweddarach.
Bu’n rhaid iddi gamu’n ôl o waith ymarferol y fferm yn ystod ei thriniaeth.
Roedd hynny’n arbennig o anodd gan ei bod yng nghanol un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn.
Bu’n rhaid i’w merched helpu ei gŵr a chymryd mwy o gyfrifoldeb dros y fferm.
Dywedodd Carol mai dweud wrth ei theulu a’i ffrindiau oedd y rhan anoddaf oherwydd ei bod yn gwybod bod pethau ar fin newid.
Ar ôl y diagnosis, roedd ei dyddiadur yn llawn apwyntiadau ac fe wnaeth ei theulu ymgymryd â rôl gofalwyr.
Dywedodd ei bod yn teimlo, mewn rhai ffyrdd, fod y profiad yn waeth iddyn nhw nag yr oedd iddi hi.
Dywedodd Linda Jones fod profiad Carol yn dangos pwysigrwydd bod cynllun ar waith ar gyfer y fferm os yw rhywun yn mynd yn sâl.
“Ar ddiwedd y dydd, i gael ffarm iach, mae rhaid i chi gael ffarmwr iach.
“Os nad yw’r ffarmwr yn iach, ’dy’r ffarm ddim yn mynd i fod yn iach.”
Mae’r canllaw hefyd yn cynnwys cyngor ar rannu gwybodaeth am y busnes, cyfrineiriau a chyfrifoldebau’r fferm gyda rhywun arall.
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng FCN a Macmillan Cancer Support, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o symptomau canser a gwella’r cymorth sydd ar gael mewn cymunedau gwledig.