Tri wedi marw a pump wedi eu hanafu ar ôl saethu mewn gŵyl fwyd yn Seattle
Cafodd tri o bobl eu lladd a mae pump arall wedi'u hanafu wedi saethu nos Sul yn ystod gŵyl fwyd ger y Space Needle yn Seattle, yn ôl llefarydd ar ran adran dân y ddinas.
Roedd y Seattle Center yn cynnal gŵyl fwyd Bite of Seattle dros y penwythnos. Fe wnaeth yr heddlu annog pobl i osgoi’r ardal, gan ddweud eu bod nhw'n credu bod dau berson wedi bod yn saethu at ei gilydd yn Seattle Center.
Mae'r pump o bobl sydd wedi eu hanafu yn cynnwys plentyn.
Mae un person yn y ddalfa ac mae'r heddlu yn chwilio am ail berson.
Dywedodd gohebydd o'r Seattle Times, a oedd yn y fan a'r lle, ei fod wedi clywed cyfres o saethiadau ar ôl ei gilydd.
Dywedodd Maer Seattle, Katie Wilson, fod y saethu yn "drychineb anhygoel ac yn weithred erchyll o drais".
"Mae gormod o drais gynnau yn y ddinas hon ac yn y wlad hon," meddai.
Dechreuodd yr ŵyl flynyddol yn 1982 ac mae’n denu tua 350,000 o bobl dros dri diwrnod.