'Siomedig eithriadol': Achub dau oedd wedi mynd i dynnu lluniau drôn o dân gwyllt

Hofrennydd yn helpu i ddiffodd y tân yn y Rhinogydd

Mae Tîm Achub a Chwilio De Eryri wedi dweud eu bod yn "siomedig eithriadol" bod dau unigolyn wedi mynd i ardal lle oedd tân allan o reolaeth er bod yr awdurdodau wedi dweud wrth bobl i gadw draw. 

Roedd y tân o gwmpas ardal Mynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech. Roedd yn rhaid i hofrennydd ddychwelyd i'r ardal fore Sadwrn i gynorthwyo criwiau tân am yr ail ddiwrnod er mwyn ceisio taclo'r fflamau yn yr ardal. 

Mewn neges ar Facebook dywedodd llefarydd mai mynd i dynnu lluniau drôn o'r tanau oedd y ddau wythnos diwethaf a bod arwyddion clir i beidio â mynd i'r ardal.

"Er gwaetha'r gwaharddiadau ffyrdd a chyngor yr heddlu i gadw draw aethant i mewn i'r ardal," medden nhw.

"Canlyniad hyn oedd iddynt fynd i drybini ar y mynydd a gorfod galw am gymorth.

"Roedd amgylchiadau'r digwyddiad yma yn siomedig eithriadol gan mai i gael lluniau drôn o'r tannau yr aeth y ddau yma i fyny. 

"O ganlyniad i'r alwad, fe anfonwyd gwirfoddolwyr Dîm De Eryri ynghyd a hofrennydd Achub a Chwilio ar orchwyl cwbwl ddi-angen."

'Dargyfeirio adnoddau' 

Mae'r neges hefyd yn dweud bod yna "gynnydd" wedi bod mewn pobl yn ceisio mynd i weld yr ardal ac i wersylla'n wyllt er bod yr asiantaethau brys yn gofyn i bobl beidio dod yno. 

"Mae pob galwad yn golygu ystyriaeth ddwys o'r peryglon i'n gwirfoddolwyr a'n cyd asiantaethau," meddai'r llefarydd.

"Mae galwad o'r math yma yn golygu rhwymo pobol ac adnoddau fyddai, fel arall ar gael i gynorthwyo'r gwir anghenus ac yn peryglu aelodau'r tîm, sydd i gyd yn wirfoddolwyr, yn ddi angen," meddai'r neges ar y cyfrwng cymdeithasol."

Maent yn dweud hefyd bod mynd i achub y ddau unigolyn yn ddefnydd o adnoddau.

"Bu côst y digwyddiad yma yn sylweddol i'r pwrs cyhoeddus trwy ddefnyddio asedau arbenigol fel yr hofrennydd," meddai.

"Roedd yna hefyd ofynion ar ein cyfarpar a'n hadnoddau ni fel tîm - y cwbwl wedi eu ariannu trwy ffynhonellau gwirfoddol a chefnogaeth y cyhoedd."

Fe wnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd gyfeirio at achosion o bobl yn teithio i lefydd fel mae tanau gwyllt ac yna angen eu hachub. 

"Mae digwyddiadau fel y rhain yn dargyfeirio adnoddau gwerthfawr i ffwrdd o weithrediadau diffodd tân a diogelu cymunedau lleol ar adeg pan fydd angen pob adnodd sydd ar gael," meddai Jami Jennigs,  Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau a Chadeirydd y Grŵp Cydlynu Tactegol.

Mae'r Gwasanaeth Tân ac y Tîm Achub a Chwilio wedi dweud bod hi'n bwysig i bobl barchu'r arwyddion ffyrdd sydd ar gau, dilyn yr hyn mae'r asiantaethau yn dweud a chadw draw o'r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio gan dân. 

Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.