Bron i 900,000 yn llai o deithwyr ym Maes Awyr Caerdydd os bydd Heathrow yn ehangu

maes awyr Caerdydd

Bydd bron i 900,000 yn llai o deithwyr yn mynd drwy Faes Awyr Caerdydd erbyn 2055 os bydd Maes Awyr Heathrow yn ehangu, yn ôl ffigurau Llywodraeth y DU.

Mae dadansoddiad Llywodraeth y DU yn cymharu beth fydd yn digwydd i niferoedd teithwyr ym meysydd awyr y DU os bydd trydedd llain lanio yn cael ei hadeiladu yn Heathrow, ger Llundain.

Cafodd y ffigurau eu cyhoeddi mewn adroddiad gan Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU.

Mae meysydd awyr eraill y DU hefyd yn cael eu heffeithio, gyda’r rhagolygon yn awgrymu y bydd 7.5 miliwn yn llai o deithwyr yn mynd drwy Faes Awyr Birmingham.

Mae’r ffigurau yn awgrymu y bydd nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd yn parhau i gynyddu, beth bynnag sy’n digwydd yn Heathrow.

Bydd 4.51 miliwn o deithwyr erbyn 2055 os na fydd Heathrow yn ehangu, o’i gymharu â 3.64 miliwn erbyn yr un flwyddyn os bydd yn ehangu, yn ôl yr adroddiad.

Mae’r model ar gyfer Maes Awyr Caerdydd yn rhagweld:

  • Tua 142,000 yn llai o deithwyr erbyn 2045;
  • Tua 471,000 yn llai erbyn 2050;
  • Tua 871,000 yn llai erbyn 2055.

Mae Maes Awyr Caerdydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru. Mae’r maes awyr ger y Rhws, ym Mro Morgannwg, ond mae’n gweithredu fel busnes masnachol hyd braich oddi wrth y llywodraeth.

Byddai ehangu Heathrow yn cynyddu GDP Cymru tua 0.04% erbyn 2056, yn ôl yr adroddiad.

Nid yw ffigurau’r Adran Drafnidiaeth yn asesu effaith hyn ar swyddi yng Nghymru.

Daeth adolygiad annibynnol o’r modelu, a gomisiynwyd gan yr Adran Drafnidiaeth, i’r casgliad y byddai’n “anghywir honni bod yr enillion o Heathrow wedi’u dosbarthu’n eang i ranbarthau eraill, ar sail y modelu”.

Dywedodd Alex Chapman, pennaeth polisi economaidd y NEF, wrth bapur newydd y Guardian fod yr adroddiad yn codi amheuon am effaith economaidd y datblygiad.

“Gyda phob darn newydd o ddata sy’n cael ei ryddhau, mae trydedd llain lanio arfaethedig Heathrow yn edrych yn llai fel cynllun ar gyfer twf ac yn fwy fel cynllun i symud swyddi a buddsoddiad i Lundain a’r de-ddwyrain,” meddai.

“Bydd y drydedd redfa yn mynd â gwariant allan o’r lleoedd sydd ei angen fwyaf, sy’n gwbl groes i’r hyn y mae Burnham yn ei gynrychioli.

“Gan y bydd yna hefyd ddifrod amgylcheddol sylweddol, nid yw’n glir pam mae’r cynllun yn mynd rhagddo.”

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.