Burnham yn ystyried treth newydd yn seiliedig ar werth tŷ
Mae’r Prif Weinidog newydd Andy Burnham wrthi’n ystyried opsiynau i ddisodli’r dreth gyngor a’r dreth stamp gyda threth newydd yn seiliedig ar werth tŷ, yn ôl adroddiadau.
Un o’r opsiynau dan ystyriaeth yw treth eiddo gyfrannol, a fyddai’n disodli’r dreth gyngor a’r dreth stamp gyda thâl blynyddol sefydlog o 0.48% ar werth presennol cartref, meddai The i paper.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn ystyried treth ar werth tir, sef tâl blynyddol ar sail gwerth y tir y mae'r eiddo arno, yn hytrach na gwerth yr adeilad.
Ni fyddai penderfyniad Llywodraeth y DU i ddisodli'r dreth gyngor a'r dreth stamp yn Lloegr yn newid y dreth yng Nghymru.
Byddai'n rhaid i Gymru benderfynu ar wahân a ddylid dilyn, addasu neu wrthod y system newydd. Ond byddai angen trafodaethau gyda Llywodraeth y DU er mwyn gwneud hynny.
Bydd y Canghellor yn adolygu’r holl opsiynau trethi cyn y Gyllideb ym mis Hydref neu Dachwedd.
Mae Burnham wedi dweud yn y gorffennol ei fod “wedi ei argyhoeddi ers amser maith gan y ddadl” dros ddiwygio’r system.
Fe gadarnhaodd y cyn-ysgrifennydd tai, Steve Reed, yn ei ymddangosiad olaf gerbron un o bwyllgorau dethol Tŷ’r Cyffredin cyn i Angela Rayner gymryd ei le, fod swyddogion yn edrych ar opsiynau ar gyfer diwygio’r dreth gyngor a’r dreth stamp.
Roedd swyddogion y Trysorlys hefyd wedi bod yn edrych ar opsiynau i ailwampio’r ffordd y mae eiddo yn cael ei drethu cyn i Burnham gyrraedd Rhif 10.
Mae mwy na 100 o ASau Llafur bellach yn rhan o grwpiau sy’n galw am ailwampio’r system.
Mae’r ffigur hwnnw yn cynnwys aelodau o grŵp newydd ASau Llafur dros Ddiwygio’r Dreth Gyngor. Grŵp y ‘Wal Goch’ yw hwn sy’n cynnwys mwy na 40 o ASau, ac aelodau o’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Ddiwygio’r Dreth Gyngor.
Mae’n debyg bod ASau sy'n cefnogi'r cynllun wedi rhoi dogfen bolisi i’r Prif Weinidog yn ystod ei ddyddiau cyntaf mewn grym, yn amlinellu’r achos dros ddiwygio’r dreth gyngor.
Dywedodd Jonathan Brash, AS Hartlepool sy’n cadeirio’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol, bod “y dreth gyngor ymysg y mwyaf annheg ym Mhrydain”.
Cyfeiriodd at y bwlch rhwng cartref Band D yn Wandsworth, lle mae trigolion yn talu £1,020 y flwyddyn, ac eiddo tebyg yn Hartlepool, lle mae’r bil yn £2,556.
“Does dim angen mân newidiadau yn unig,” ychwanegodd. “Mae angen diwygiadau sylweddol.”
Beth yw’r sefyllfa yng Nghymru?
Mae gan Gymru reolaeth sylweddol dros y dreth gyngor a’r dreth ar brynu eiddo, ond mae rhai cyfyngiadau cyfansoddiadol yn parhau ar gyflwyno trethi newydd.
Y cynghorau lleol sy’n penderfynu faint o dreth gyngor i’w chodi bob blwyddyn yn eu hardaloedd.
Ond mewn egwyddor, gallai’r Senedd ddileu’r dreth gyngor a chyflwyno treth leol arall yn ei lle, gan gynnwys treth eiddo gyfrannol neu dreth ar werth tir.
Nid yw Treth Dir y Dreth Stamp yn berthnasol yng Nghymru ers 2018. Cafodd ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir.
Ond gallai cyflwyno un dreth eiddo i gymryd lle'r dreth gyngor a'r Dreth Trafodiadau Tir fod yn fwy cymhleth. Gallai fod angen cymeradwyaeth y Senedd, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.
O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, byddai ychwanegu categori newydd o dreth ddatganoledig angen cymeradwaeth gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn San Steffan.