Gwisg newydd ar gyfer y Girlguides yn y dyluniad newydd cyntaf mewn 36 mlynedd
Mae elusen y Girlguides sydd â bron i 12,000 o aelodau ifanc yng Nghymru wedi newid dyluniad eu gwisg am y tro cyntaf ers 36 mlynedd.
Mae mwy na 1,100 o grwpiau yn cyfarfod yn wythnosol yng Nghymru, gyda mwy na 3,000 o wirfoddolwyr yn eu cynorthwyo, yn ôl yr elusen.
Nod y wisg newydd yw "meithrin y gwir deimlad o fod yn perthyn," meddai Girlguiding.
Yn wahanol i'r drefn flaenorol, dim ond y crys sy'n ofynnol i'w wisgo yn y wisg newydd.
Cafodd hynny ei benderfynu wedi i filoedd o aelodau gael cyfle i fynegi eu barn, gyda nifer yn awgrymu y byddai'n well ganddyn nhw gael y dewis i fynegi eu steil eu hunain.
Wrth ddatgelu'r wisg newydd ddydd Llun, dywedodd y prif weithredwr Felicity Oswald iddi gael ei chynllunio "drwy gydweithio â miloedd o ferched a menywod ifanc."
Nododd hefyd bod y wisg yn rhoi rhyddid i ferched fynegi eu hunain.
Dechreuodd y gwaith cynllunio ym mis Mawrth 2024, ac mae'n gynllun sy'n seiliedig ar wisg 1990 ond wedi ei moderneiddio.
Daw'r ail frandio chwe wythnos cyn i bolisi aelodaeth y sefydliad newid, sy'n golygu y bydd yn rhaid i ferched trawsryweddol adael.
Daw hynny wedi cyhoeddiad fis Rhagfyr sy'n nodi na all merched trawsryweddol ymuno â'r elusen bellach, yn sgil dyfarniad Goruchaf Lys y DU yn 2025 fod y diffiniad o fenyw o dan gyfraith cydraddoldeb yn seiliedig ar ryw biolegol.
Tra bo rhai gwirfoddolwyr o fewn Girlguiding wedi cynnal protestiadau a bygwth ymddiswyddo, mae eraill wedi croesawu'r newid yn y polisi.