Marwolaeth Sabina Nessa: Heddlu'n chwilio am ddyn arall
Mae Heddlu'r Met yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes 28 oed, Sabina Nessa, gael ei llofruddio yn Llundain.
Cafodd dyn 38 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio'r athrawes ddydd Iau, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Yn ôl Heddlu'r Met, dyma'r ail berson i gael ei arestio mewn cysylltiad â'i marwolaeth.
Dywed The Guardian fod yr heddlu nawr yn dymuno siarad â dyn arall ac wedi cyhoeddi lluniau CCTV ohono yn ardal Pegler Square yn ne-ddwyrain Llundain ar y noson ymosodwyd Ms Nessa.
Mae'r heddlu hefyd wedi cyhoeddi lluniau o gerbyd arian maen nhw'n credu roedd y dyn yn ei ddefnyddio, ac yn gofyn i unrhyw un sydd yn adnabod y dyn i gysylltu â nhw.
Yn gynharach brynhawn Iau, dywedodd yr heddlu bod lle i gredu bod yr athrawes wedi’i llofruddio "gan ddieithryn" wrth gerdded ar daith pum munud i gwrdd â ffrind mewn tafarn.
Cafwyd hyd i'w chorff mewn parc yn ne-ddwyrain Llundain am tua 19:30 nos Sadwrn diwethaf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Heddlu'r Met