Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar rai o brif straeon y gwasanaeth ar fore Mercher, 15 Medi, o Gymru a thu hwnt.
Teuluoedd yn dal i chwilio am atebion ddegawd wedi trychineb y Gleision
Ddeng mlynedd ers trychineb glofa'r Gleision yng Nghwm Tawe mae teuluoedd y pedwar glöwr fu farw'n dal i chwilio am atebion. Boddwyd Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan orlifodd ddŵr i'r lofa ar 15 Medi, 2011.
Cymorth i farw: Y Gymdeithas Feddygol yn rhoi'r gorau i'w gwrthwynebiad – Sky News
Mae'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) wedi rhoi’r gorau i'w gwrthwynebiad yn erbyn hawl cleifion i farw â chymorth ar ôl pleidlais. Mae’r penderfyniad yn golygu na fydd y BMA yn cefnogi na'n gwrthwynebu ymdrechion i newid y gyfraith.
GB News: 'Yr hwch wedi mynd trwy’r siop'
Mae Guto Harri, cyn-gyflwynwyr sianel GB News wedi dweud ei bod hi'n anodd dychmygu dyfodol hir dymor i’r sianel newyddion newydd. Fis Gorffennaf cafodd y newyddiadurwr a'r cyflwynydd ei wahardd rhag ymddangos ar y sianel ar ôl iddo 'gymryd y ben-glin'.
Protest cyfryngau cymdeithasol menywod Affganistan yn erbyn y Taliban – The Guardian
Yn dilyn protestiadau stryd ar draws dinasoedd Affganistan, mae menywod bellach yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i brotestio yn erbyn polisïau caled y Taliban tuag atynt.
Busnesau bach yng Nghaerdydd yn cael eu targedu gan lardon – ITV
Mae busnesau a siopau annibynnol yn ardal Y Rhath, Gaerdydd yn rhybuddio eraill i fod yn ofalus ar ôl iddynt gael eu targedu gan ladron.
Dros 25% o Brydeinwyr 'wedi dechrau eu siopa Nadolig yn barod' – The Sun
Mae dros 25% o Brydeinwyr wedi dechrau eu siopau Nadolig yn barod oherwydd bod prinder gyrwyr cyflenwi a dosbarthu yn bygwth gwneud dod o hyd i anrhegion yn anoddach, medd The Sun.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.