Anhrefn Trelái: Tri dyn yn cyfaddef achosi terfysg wedi marwolaethau dau fachgen
Mae tri dyn wedi cyfaddef iddyn nhw achosi terfysg wedi marwolaethau dau fachgen yn ardal Trelái, Caerdydd.
Cyfaddefodd Callum O’Sullivan, 24, Jordan Webster, 29, a Jayden Westcott, 20, o ardal Trelái, i achosi terfysg yn yr ardal yn 2023.
Roedd anhrefn ar strydoedd Trelái, ddydd Llun, 22 Mai, 2023 yn dilyn marwolaethau dau fachgen ifanc, Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, mewn gwrthdrawiad.
Dangosodd delweddau CCTV fan Heddlu De Cymru yn dilyn y bechgyn ar feiciau trydan cyn iddyn nhw fod mewn gwrthdrawiad yn ddiweddarach.
Wrth i densiynau gynyddu rhwng pobl leol a’r heddlu, cafodd dwsinau o blismyn eu hanafu a chafodd ceir eu rhoi ar dân.
Roedd y tri dyn wedi gwadu'r cyhuddiadau mewn gwrandawiad blaenorol, ond plediodd pob un ohonynt un euog yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Cafodd y dynion eu rhyddhau ar fechnïaeth, ac mae disgwyl iddyn nhw gael eu dedfrydu fis Rhagfyr.
Ymddangosodd saith person arall yn y llys, sef Jaydan Baston, 20, o Gaerau, Zayne Farrugia, 25, o Gaerau, McKenzie Danks, 22, o Gaerau, Harvey James, 19, o'r Tyllgoed, Kieron Beccano, 26, o Sain Ffagan, Lee Robinson, 37, o Gaerdydd a Luke Williams, 31, o Drelái.
Cafodd y saith eu rhyddhau ar fechnïaeth cyn eu hachos llys nhw ar 22 Medi.