John Torode wedi colli ei swydd ar MasterChef
Mae cyflwynydd rhaglen MasterChef John Torode wedi colli ei swydd ar ôl i adroddiad nodi fod sail i honiad iddo ddefnyddio iaith hiliol.
Cadarnhaodd y BBC a chwmni cynhyrchu Banijay nos Fawrth na fydd cytundeb y cyflwynydd yn cael ei adnewyddu.
Ddydd Llun, cadarnhaodd y cyflwynydd a gafodd ei eni yn Awstralia mai fe oedd y person yn gysylltiedig â'r honiad o ddefnyddio iaith hiliol mewn adroddiad a oedd yn edrych ar ymddygiad ei gyd-gyflwynydd Gregg Wallace.
Dechreuodd John Torode, sy'n 59 oed, gyflwyno MasterChef gyda Gregg Wallace yn 2005.
Fe wnaeth yr adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Banijay UK sydd yn cynhyrchu Masterchef, ddarganfod bod yna sail i dros hanner o'r honiadau yn erbyn Wallace.
Cyhoeddodd y BBC ddydd Llun nad oes ganddynt fwriad i weithio gyda Greg Wallace eto yn y dyfodol.
Dywedodd yr adroddiad hefyd bod yna sail i ddau honiad arall oedd yn erbyn pobl eraill, gan gynnwys un am ddefnyddio iaith hiliol.
Fe ddywedodd John Torode ar Instagram mai fe yw'r person yn gysylltiedig â'r honiad o ddefnyddio iaith hiliol. Ond doedd ganddo ddim "cof o'r digwyddiad".
Dywedodd hefyd fod yr honiad wedi ei "synnu a'i dristáu."
Ddydd Llun, fe ddywedodd Gregg Wallace sy'n 60 oed, ei fod yn "ymddiheuro am unrhyw ofid" a achosodd. Ychwanegodd nad ei fwriad oedd i "frifo na chywilyddio unrhyw un".
O'r 84 o honiadau yn erbyn Wallace, roedd sail i 45 ohonyn nhw yn ôl y ddogfen, yn cynnwys un yn ymwneud â "chyswllt corfforol na chafodd ei groesawu."
Iaith a hiwmor rhywiol amhriodol oedd y rhan fwyaf o'r honiadau yn erbyn Wallace.
Yn ystod yr ymchwiliad sydd wedi para saith mis, cafodd Greg Wallace ddiagnosis yn ymwneud â chyflwr awtistiaeth, meddai'r ddogfen.
Mae'r BBC wedi dweud fod yr ymddygiad a gafodd ei nodi yn yr adroddiad "yn disgyn yn is na gwerthoedd y BBC a'n disgwyliadau ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio gyda ni, neu ar ein cyfer".
Dyw'r BBC ddim wedi penderfynu eto a fyddan nhw yn darlledu cyfres MasterChef a gafodd ei ffilmio y llynedd.
Llun: PA Wire