GB News: 'Yr hwch wedi mynd trwy’r siop'
GB News: 'Yr hwch wedi mynd trwy’r siop'
Mae un o gyn-gyflwynwyr sianel GB News wedi dweud wrth Newyddion S4C ei bod hi'n anodd dychmygu dyfodol hir dymor i’r sianel newyddion newydd.
Fis Gorffennaf cafodd y newyddiadurwr a'r cyflwynydd Guto Harri ei wahardd rhag ymddangos ar y sianel ar ôl iddo 'gymryd y ben-glin'.
Yn dilyn beirniadaeth gan wylwyr ymddiswyddodd Mr Harri ychydig dros fis wedi i’r sianel gael ei lansio.
“Mae'n anodd, anodd dychmygu yn y pen draw bo 'na ddyfodol hir dymor yn fasnachol i sianel sydd mor gul ei hapêl,” meddai.
Nos Fercher bydd y newyddiadurwr yn dychwelyd i’r sgrin am y tro cyntaf ers y digwyddiad gan gyflwyno’r rhaglen materion cyfoes, Y Byd yn ei Le ar S4C.
“Sa' i'n credu fydda i'n mynd ar fy mhengliniau yn stiwdio'r Byd yn ei Le, ond mi nes i 'na gyda GB News", dywedodd.
“O nhw ddim cweit mor frwd dros ryddid mynegiant a oedden nhw wedi datgan fel sianel, ag i ni gyd wedi gweld yr hwch yn mynd trwy'r siop i ryw raddau ers hynny.
“Annog trafodaeth odd raison d'etre GB News ag odd pawb odd yn rhan o'r rhaglen 'na yn gwybod yn iawn beth odd yn mynd i ddigwydd.
“O nhw'n credu fod e'n beth da, natho nhw ynysu'r clip, natho nhw hyrwyddo fe, felly odden nhw yn amlwg ddim yn credu ar y pryd bod dim byd o'i le.
“Ond odd yr ymateb ymysg cynulleidfa falle llai eangfrydig na'r disgwyl i GB News ddim yn gadarnhaol iawn".
Yn gynharach yr wythnos hon, Andrew Neil, cadeirydd ac un o brif gyflwynwyr y sianel oedd y diweddaraf i ymddiswyddo.
“Os ma' dim ond fi odd allan o sinc falle fyddwn i'n cnoi cil", ychwanegodd Guto Harri.
“Ond ma' Andrew Neil wedi gadael, ma'r pennaeth newyddion wedi gadael, ma' llu o bobl eraill wedi gadael.
“Odd 'na ymgais i drio gwneud rhywbeth mwy arloesol ac yn anffodus, a chi’n gwybod mae'n drist yn y pen draw bo nhw wedi penderfynu mynd am ryw gynulleidfa fach gil go gas yn y pendraw yn hytrach na thrio gwneud rhywbeth odd yn arloesol ac yn eangfrydig.
“Ond does dim o'i le ar drio gwneud huna sa i'n credu".
Fe fydd Y Byd yn ei Le gyda Guto Harri yn dychwelyd am gyfres newydd am 20:25 ar S4C.