'Penderfyniad annymunol': Ymateb cymysg i Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru

Huw Irranca-Davies

Mae ymateb cymysg wedi bod gan undebau amaethyddol wrth i Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi fore Mawrth.

Disgrifiodd Undeb Amaethwyr Cymru'r cynllun fel "carreg filltir nodedig yn nyfodol amaethyddiaeth Cymru."

Ond dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones bod newidiadau i'r Cynllun Taliad Sylfaenol yn taflu cysgod dros y newidiadau positif i'r cynllun.

Dywedodd bod y penderfyniad i dorri grant ffermwyr oedd yn dewis peidio ag ymuno â’r cynllun newydd yn 2026 o 40% yn hytrach na'r 20% oedden nhw wedi ei ddisgwyl yn un "annymunol".

Ers saith mlynedd mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar eu Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn cael ei gyflwyno ar 1 Ionawr 2026.

Mae elfennau o’r cynllun, dan arweiniad y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi bod yn ddadleuol.

Maen nhw'n cynnwys yr angen i neilltuo 10% o dir ffermydd ar gyfer coed.

Wedi'r cyhoeddiad a "dros 300 awr o drafod" gyda Llywodraeth Cymru mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, wedi croesawu'r cynllun.

“Ers yr ymgynghoriad cychwynnol ar Brexit a'n Tir yn 2018, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi buddsoddi adnoddau sylweddol wrth lobïo, negodi a herio Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio sicrhau cynllun ymarferol er budd dyfodol ffermydd teuluol cynaliadwy a ffyniannus ledled Cymru," meddai.

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, rydym wedi mynychu dros 60 o gyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru, gan dreulio dros 300 awr mewn trafodaethau.

"Gallaf sicrhau aelodau Undeb Amaethwyr Cymru a'r gymuned amaethyddol ehangach nad ydym wedi gadael unrhyw garreg heb ei throi dros y saith mlynedd diwethaf yn ein huchelgais i sicrhau fframwaith cymorth pwrpasol i ffermwr Cymru yn y byd ôl-Brexit.

"Mae'r Cynllun a gyhoeddwyd heddiw yn cynrychioli'r cyfnod hir hwn o drafod, gan nodi carreg filltir nodedig yn nyfodol amaethyddiaeth Cymru.”

Beth sydd yn y cynllun?

Bydd gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy dair haen, sef taliad cyffredinol, haen opsiynol a thaliad cydweithredol.

Dan y taliad cyffredinol, bydd rhaid i ffermwyr gytuno i 12 o ofynion gan gynnwys cynllunio ar gyfer gwella iechyd y pridd, cynnal cynefinoedd a mynd ar gyrsiau datblygiad proffesiynol.

Mae hefyd haen opsiynol, sydd â'r bwriad o ychwanegu at incwm ffermydd drwy gynnig gwaith amgylcheddol pellach, gan gynnwys plannu coed i adfer mawn.

Fe fydd hefyd taliad cydweithredol ar gael yn y dyfodol i gefnogi ffermwyr sy'n gweithio ar y cyd ar brosiectau ar draws tirweddau.

Dyma yn union bydd y ffermwyr sydd yn rhan o'r cynllun angen eu gwneud/yn eu derbyn, yn ôl Llywodraeth Cymru:

Taliad Cynhwysol blynyddol i ffermwyr sy'n ymuno â'r cynllun ac sy'n dilyn gofynion y cynllun gan gynnwys set o Camau Gweithredu Cyffredinol. Bydd y gweithredoedd hynny'n "gyfarwydd i ffermwyr yng Nghymru." 

Mae Llywodraeth Cymru wedi "lleihau nifer y Camau Gweithredu Cyffredinol ac wedi adeiladu ar brosesau a systemau profedig Taliadau Gwledig Cymru."

Mae'r cyfuniad o'r haenau Cyffredinol, Dewisol a Chydweithredol yn darparu fframwaith sefydlog hirdymor i gefnogi ffermio cynaliadwy yng Nghymru.

Cwblhau cynllun cyfle ar gyfer creu coetir a gwrychoedd yn y flwyddyn gyntaf o gael mynediad i'r Cynllun.  Bydd angen iddynt ddangos cynnydd tuag at eu cynllun erbyn diwedd blwyddyn y cynllun yn 2028.   

Cymorth hael ar gyfer plannu coed a gwrychoedd yn yr Haen Ddewisol, gan gynnwys ar gyfer amaethgoedwigaeth, a bydd cyfradd talu uwch ar gyfer plannu coed yn ystod tair blynedd gyntaf y Cynllun.  

Nid oes disgwyl i ffermwyr blannu coed ar eu tir mwyaf cynhyrchiol – byddant yn penderfynu ble i blannu, gyda chyngor a chanllawiau clir i sicrhau bod y goeden gywir yn y lle iawn. 

Cael o leiaf 10% o'u tir yn cael ei reoli'n weithredol fel cynefin, er budd bioamrywiaeth a chefnogi adferiad natur ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. Mae amrywiaeth o opsiynau cynefinoedd dros dro ar gael i ddewis ohonynt os oes angen i ffermwyr wneud mwy i fodloni'r gofyniad o 10%.  

'Ergyd i ffermwyr'

Fel rhan o'r cynllun mae Cynllun Taliad Sylfaenol Llywodraeth Cymru i ffermwyr, taliad blynyddol er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn arferion amgylcheddol da, yn cael ei dorri 40%.

Dywedodd Aled Jones bod hwn yn ddatblygiad pryderus i ffermwyr ar draws Cymru.

“Mae’r penderfyniad annymunol hwn gan Lywodraeth Cymru yn peri pryder mawr i ffermwyr yng Nghymru a oedd wedi cael gwybod yn flaenorol y byddai’r rhai a fyddai’n dewis peidio ag ymuno â’r cynllun newydd yn 2026 yn derbyn 80% o’u taliad," meddai.

"Mae busnesau ffermio wedi cynllunio ymlaen llaw ar y sail hon.

“Mae’r datblygiad hwn hyd yn oed yn fwy o ergyd o ystyried nad oes canllawiau sylweddol a manylion technegol wedi’u cyhoeddi eto, sydd eu hangen ar ffermwyr os ydynt am wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ag ymuno â’r cynllun."

Nid yw Huw Irranca-Davies wedi ymrwymo i gyhoeddi asesiad effaith o'r fersiwn derfynol gan ddweud bod y gwaith yn parhau.

Heb hyn, mae'n "amhosib" rhagweld effaith y cynllun meddai Aled Jones.

"Heb gyhoeddi asesiad effaith a modelu Llywodraeth Cymru, mae'n amhosibl deall yr effaith y bydd y cynllun yn ei chael ar fusnesau fferm a'r gadwyn gyflenwi," meddai.

"Rhaid sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael cyn gynted â phosibl a rhaid i Lywodraeth Cymru ymrwymo i newid y cynllun os yw sectorau neu ardaloedd penodol dan anfantais, neu os yw'n ymddangos bod y cynllun yn rhwystro ac yn niweidio ein huchelgais i barhau i dyfu sector bwyd Cymru."

'Gwelliant'

Wrth ymateb i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy diwygiedig, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Llyr Gruffydd AS bod y cynllun "yn welliant" ar yr un a gynigiwyd yn wreiddiol.

"Mae'r cynnydd hwn yn adlewyrchu'r gwaith sylweddol a wnaed gan y sectorau amaethyddol ac amgylcheddol, ac rydym yn diolch iddynt am eu hymdrechion," meddai.

"Er ein bod yn croesawu'r ymrwymiad ariannu o £238 miliwn ar gyfer y flwyddyn i ddod, nid yw addewid blwyddyn yn ddigon. 

"Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cynnal y lefel hon o gyllid mewn termau real fel isafswm, ac yn hollbwysig, fel rhan o gylch cyllido aml-flynyddol. Dyna'r unig ffordd i roi'r sicrwydd hir dymor sydd ei angen ar ffermwyr.

"Mae cwestiynau yn parhau ynghylch cydbwysedd buddsoddiad ar draws haenau'r cynllun, strwythur y cyfnod pontio, a'r diffyg eglurder ynghylch y taliad gwerth cymdeithasol hir-addawol. Rydym yn gobeithio y bydd y materion hyn yn cael eu datrys yn gyflym, oherwydd, fel erioed, bydd y diafol yn y manylion."

'Cymru gyfan'

Dywedodd Mr Irranca-Davies, bod y cynllun wedi ei gynllunio er mwyn i Gymru gyfan elwa ohono.

"Mae'r ddogfen hon yn ffrwyth cydweithredu," meddai. 

"Rydym wedi gwrando'n ofalus ar ffermwyr ledled Cymru ac wedi adolygu ein dull gweithredu i sicrhau ei fod yn gweithio i'r diwydiant amaethyddol ac yn bodloni ein cyfrifoldebau cyffredin i'r byd naturiol o'n cwmpas.  

"Mae'r cynllun yn gytundeb newydd rhwng pobl Cymru a'n ffermwyr a pherchenogion ein tir. Nid cynllun i ffermwyr yn unig yw hwn, mae hwn yn gynllun ar gyfer Cymru gyfan – cynllun fferm gyfan, cynllun gwlad gyfan.  

"Rydym yn cydnabod bod hyn yn golygu newid. Mae'r Cynllun hwn yn sylfaenol wahanol i'r Cynllun Taliad Sylfaenol, ond yn gwbl angenrheidiol ar gyfer llwyddiant hirdymor ffermio, cynhyrchu bwyd a'r amgylchedd."   

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.