Eluned Morgan yn datgan ei chefnogaeth i Syr Keir Starmer
Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi datgan ei chefnogaeth i Syr Keir Starmer ar ôl iddo oroesi ymgais i’w ddisodli.
Daw ei sylwadau ddiwrnod wedi i arweinydd y Blaid Lafur yn Yr Alban, Anas Sarwar alw ar Starmer i ymddiswyddo.
Mewn datganiad fore Mawrth dywedodd Eluned Morgan ei bod yn "cefnogi’r Prif Weinidog yn y swydd y cafodd ei ethol i'w chyflawni," meddai.
"Wedi blynyddoedd o un arweinydd ar ôl y llall dan y Ceidwadwyr, mae angen sefydlogrwydd ar y wlad mewn cyfnod o ansefydlogrwydd, ac mae hynny'n bwysig i Gymru."
Ychwanegodd Ms Morgan fod ganddi "bryderon" am Peter Mandelson yn ei swydd cyn iddo adael, a hynny oherwydd "y cwmni roedd yn ei gadw."
Ddydd Sul cyhoeddodd pennaeth staff y Prif Weinidog Keir Starmer, Morgan McSweeney, ei fod yn ymddiswyddo yn sgil sgandal Peter Mandelson.
Cafodd Peter Mandelson ei ddiswyddo ym mis Medi'r llynedd yn sgil gwybodaeth newydd am ei berthynas â'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.
Daeth honiadau i'r amlwg yr wythnos diwethaf fod Peter Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein. Roedd yn weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown ar y pryd.
Daw hyn ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud a Jeffrey Epstein ddiwedd mis Ionawr.
Dywedodd Eluned Morgan bod "y materion hyn yn hynod o bryderus oherwydd, unwaith eto, cafodd lleisiau merched a menywod eu hanwybyddu.
“Rhaid cydnabod y methiant hwnnw a wynebu hynny yn onest.
“Mae arweinyddiaeth yn golygu cynnal safonau a gweithredu pan maen nhw'n methu.
“Yn y pen draw, rwy’n barnu unrhyw Brif Weinidog yn ôl un prawf syml: ydyn nhw'n gweithio dros Gymru. Rwyf wedi bod yn glir gyda Keir ynghylch yr hyn sydd ei angen ar Gymru. Gweithredu ar gostau byw, buddsoddi yn ein heconomi a’n seilwaith, ac ymrwymiad parhaus i ddatganoli cryfach.
“Rwyf yn parhau i ganolbwyntio ar arwain Cymru yn ddiffuant a chyflawni newid gwirioneddol i bobl yma.”