Reform yn beirniadu un o gymdeithasau Prifysgol Bangor am eu gwahardd
Mae ffigyrau blaenllaw ym mhlaid Reform UK wedi beirniadu penderfyniad gan un o gymdeithasau Prifysgol Bangor i beidio â chaniatáu i’w gwleidyddion siarad yno.
Dywedodd Cymdeithas Ddadlau a Gwleidyddiaeth y brifysgol eu bod nhw wedi derbyn cais gan yr ymgyrchydd gwleidyddol Jack Anderton a’r AS Reform Sarah Pochin i annerch myfyrwyr.
Dywedodd y gymdeithas eu bod nhw wedi gwrthod y cais “yn unol â’n gwerthoedd” am eu bod eisiau “cadw casineb allan o’n prifysgolion”.
Mae pennaeth polisi Reform UK, Zia Yusuf, un o uwch gynghorwyr Nigel Farage, James Orr, a’r ASau Reform Lee Anderson, Richard Tice a Suella Braverman ymysg y rheini sydd wedi beirniadu'r penderfyniad.
Dywedodd Prifysgol Bangor bod y gymdeithas wedi ei chynnal gan y myfyrwyr oedd yn rhan ohoni ac yn annibynnol ohonyn nhw.
"Mae’r safbwyntiau sy’n cael eu mynegi gan gymdeithasau yn cynrychioli eu safbwyntiau eu hunain ac nid ydynt yn adlewyrchu polisi'r Brifysgol,” medden nhw mewn datganiad.
“Mae Prifysgol Bangor yn parhau i fod yn niwtral yn wleidyddol ac yn cefnogi rhyddid i lefaru. Mae Prifysgol Bangor yn croesawu dadlau ar draws y sbectrwm gwleidyddol."
Ond mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe awgrymodd Zia Yusuf bod cyfrifoldeb ar y brifysgol.
“Mae Bangor yn derbyn £30 miliwn mewn cyllid gan y wladwriaeth y flwyddyn, ac mae llawer ohono’n dod gan drethdalwyr sy’n pleidleisio dros Reform,” meddai.
“Rwy’n siŵr na fyddent yn meindio colli pob ceiniog o’r cyllid gan y wladwriaeth o dan lywodraeth Reform.
“Wedi’r cyfan, ni fyddent eisiau arian pobl hiliol, na fydden nhw?”
'Bygwth'
Dywedodd Claire Hughes, AS Bangor Aberconwy bod sylwadau Reform yn "druenus".
"Dyw Reform yn cynnig ddim byd ond rhannu pobl," meddai.
"Cyhuddo Prifysgol Bangor o 'wahardd' Reform a chyhoeddi bygythiadau. A hynny i gyd oherwydd bod cymdeithas ddadlau wedi eu gwrthod?
"Mae'n druenus. Byddwn yn ymladd yn eu herbyn yr holl ffordd."
Fe ymatebodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts drwy ddweud "rhag eich cywilydd" wrth Reform.
"Mae Reform yn bygwth sefydliad sy'n sail i ddysg a'r economi yng Nghymru," meddai.
"Wedi'i lên-ladrata'n syth allan o lawlyfr Trump - gwleidyddiaeth rhagfarn, tlodi ac ofn. Gorau dawn, deall."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Brifysgol Bangor am ymateb i’r sylwadau diweddaraf gan Reform.
Datganiad y Gymdeithas Ddadlau a Gwleidyddiaeth
“Yn unol â’n gwerthoedd rydyn ni wedi gwrthod y cais,” meddai'r Gymdeithas Ddadlau a Gwleidyddiaeth.
“Rydym yn sefyll wrth y penderfyniad hwn fel pwyllgor.
“Nid oes gennym unrhyw oddefgarwch o gwbl i unrhyw fath o hiliaeth, trawsffobia, na homoffobia a ddangosir gan aelodau Reform UK.
“Mae eu hagwedd at fywydau eraill yn groes i werthoedd trafodaeth groesawgar a theg y mae ein cymdeithas wedi'u cynnal ers 177 mlynedd.
“Rydym yn falch o fod y cyntaf o'r undebau dadlau i sefyll yn erbyn Reform UK. Rydym yn erfyn yn gryf ar ein cydgymdeithasau i ymuno â ni i gadw casineb allan o'n prifysgolion.”
Dywedodd Reform UK Bangor ac Aberconwy fod "rhyddid barn dan ymosodiad ym Mhrifysgol Bangor".
"Cymdeithas ddadlau, o bob grŵp, sy'n dewis peidio â dadlau.
"Beth bynnag yw eich gwleidyddiaeth, dylai hyn eich poeni. Dylai prifysgolion fod yn lleoedd lle mae syniadau'n cael eu herio'n agored, nid eu cau."
Llun: Zia Yusuf gan Yui Mok.