Gostwng oedran gyrwyr trên i 18 oed
Bydd pobl ifanc 18 oed yn medru gyrru trenau dan gynlluniau newydd.
O fis Mehefin ymlaen fe fydd yr oedran yn gostwng o 20 i 18 oed yn sgil pryderon ynghylch nifer y gyrwyr sydd yn nesáu at yr oedran ymddeol.
Fe fydd y ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno yn Senedd San Steffan ddydd Mawrth.
Mae Adran Drafnidiaeth y DU yn dweud bod disgwyl i 25% o yrwyr trên gyrraedd yr oedran ymddeol erbyn 2030.
Mae llai nag un mewn 10 o yrwyr trên dan 30 oed, gydag un ym mhob naw yn unig yn fenywod.
Mae'r ganran sydd yn dod o gefndir lleiafrifol ethnig yn llai nag 13%.
Dywedodd Yr Arglwydd Henry, y gweinidog dros reilffyrdd ynb San Steffan bod y newid hwn yn helpu "diogelu dyfodol rheilffyrdd Prydain."
“Mae gostwng yr oedran ar gyfer gyrwyr trên yn gam sylweddol ymlaen i bobl ifanc ledled Prydain," meddai.
“Bydd y newid hwn yn agor drysau i’r rhai sydd eisiau symud yn syth i’r gweithle, gan roi cyfle i genhedlaeth iau adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil yn y diwydiant rheilffordd, a hynny mewn gwasanaethau cludo nwyddau neu deithwyr.
“Mae’n gam a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol rheilffyrdd Prydain a’r diwydiant rheilffyrdd ehangach, a hefyd sicrhau bod y gweithlu’n adlewyrchu egni, talent ac uchelgais y genhedlaeth nesaf.”
Ychwanegodd Dave Calfe, ysgrifennydd cyffredinol undeb Aslef, bod y penderfyniad yn "cynyddu amrywiaeth drwy annog mwy o bobl ifanc o bob cymuned i yrru trenau”.
“Ar hyn o bryd, mae llawer o bobl ifanc yn dewis eu gyrfa yn 18 oed ac mae’r diwydiant trenau yn colli allan gan mai’r isafswm oedran presennol yw 20," meddai.
“Bydd y newid hwn yn ehangu’r cyfle i’r diwydiant rheilffyrdd recriwtio’r nifer fawr o yrwyr trên sydd eu hangen dros y pum mlynedd nesaf.”