Betsi Cadwaladr: Llawdriniaethau mesh yn cael eu gwneud er eu hatal yn 2018

Y Byd ar Bedwar
Arwydd bwrdd iechyd Betsi

Mae llawdriniaethau sy’n ymwneud â mesh artiffisial sy’n cael ei osod yn y wain (fagina) yn dal i gael eu gwneud gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, er bod y driniaeth wedi ei hatal dros dro.

Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai llawdriniaethau TVT a TVT-O, dwy fath o driniaeth sy’n gosod mesh yn y wain i drin cleifion sy’n gollwng dŵr, yn cael eu hatal nes bod amodau sy’n lleihau risg o anafiadau i gleifion yn cael eu cwrdd.

Ond mae rhaglen Y Byd ar Bedwar wedi datgelu bod 13 o gleifion wedi cael llawdriniaeth TVT o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers 2018. 

Fe ofynnodd y rhaglen i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sawl llawdriniaeth TVT neu TVT-O maen nhw wedi eu gwneud rhwng 2005-2025, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd yr unig un wnaeth gadarnhau eu bod wedi defnyddio mesh mewn llawdriniaethau ers 2018.

Yn eu hymateb, fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan nad oedd ganddyn nhw ddata ar gyfer y triniaethau o Fehefin 2018 ymlaen, gan bod ‘y triniaethau yma wedi eu hatal am gyfnod amhenodol."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, dylai mesh o’r math yma ond gael ei osod pan nad oes triniaeth arall ac yn dilyn ymgynghori agos a thrylwyr rhwng y claf a’r meddyg, gyda goruchwyliaeth drwyadl.

‘Syndod’

Mae’r ffigurau’n synnu Dr. Wael Agur, un o brif gynecolegwyr y Deyrnas Unedig. Mae'n gwneud gwaith preifat ac ar ran Gwasanaeth Iechyd yr Alban, ac wedi rhoi  tystiolaeth feddygol mewn sawl achos cyfreithiol yn erbyn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr sy'n ymwneud â llawdrinaethau mesh.

“Mae hyn yn fy synnu i. Ddylai’r un bwrdd iechyd fod yn defnyddio mesh ar ôl atal y triniaethau yma achos roedd hyn ar sail diogelwch cleifion. Fyddwn i ddim yn disgwyl i fwrdd iechyd yn y Deyrnas Unedig i fod yn defnyddio mesh i drin gollwng dŵr pan mae stop wedi bod ar y driniaeth ers Gorffennaf 2018.

“Dwi wedi stopio defnyddio mesh ers dros ddegawd erbyn hyn. Ers hynny, dwi heb ddod ar draws un claf ble mae’r tîm clinigol wedi penderfynu mai mesh ydy’r unig opsiwn i drin gollwng dŵr - y TVT neu’r TVT-O. Dwi heb gwrdd â chlaf eto ble mae’r triniaethau eraill i gyd wedi methu.

“Nid dyma’r peth iawn i’w wneud - nid dyma’r ffordd gywir ymlaen. Mae’r triniaethau TVT sy’n dal i gael eu defnyddio o fewn y Bwrdd Iechyd wedi eu hatal am reswm. A’r rheswm yw y cymlethdodau hirdymor difrifol mae modd eu hosgoi. Achos mae 'na driniaethau eraill sy’n fwy diogel.”

Image
Dr Wael Agur, Ymgynghorydd Gynecoleg
Dr Wael Agur, Ymgynghorydd Gynecoleg

Mewn ymateb, dywedodd Dr Clara Day, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Ers 2018, dyw’r bwrdd iechyd heb wneud unrhyw lawdriniaethau TVT-O. Yn ystod yr un cyfnod o chwe blynedd, mae 13 llawdriniaeth TVT wedi eu cwblhau.

“Ar gyfer rheoli problemau gyda gollwng dŵr, ‘dyw defnydd TVT ond yn cael ei ystyried yng nghyd-destun rheolaethau llym a than reolaeth.”

“Mae’r rheolaethau hyn yn cynnwys offeryn gwneud penderfyniad ar y cyd NICE, cymeradwyaeth ffurfiol tîm aml-ddisgyblaeth er mwyn cadarnhau addasrwydd, ac mae penderfyniadau yn gorfod cael eu cadarnhau gan y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol.”

“Mae trafodaeth wybodus gyda chleifion am y triniaethau sydd ar gael, a thrafodaethau ynghylch cydsyniad, yn rhan annatod o’r broses hon.”

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Dan gyllell Klazinga - ar S4C Clic ac ar BBC i Player


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.