
Nain a thaid o Sir y Fflint yn euog o lofruddio eu hŵyr
Mae nain a thaid o Sir y Fflint wedi eu cael yn euog o lofruddio eu hŵyr dwy oed Ethan Ives-Griffiths.
Dyfarnodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug fod Michael Ives, 47 oed, a Kerry Ives, 46 oed, yn euog o'i lofruddiaeth ac o greulondeb i blentyn dan 16 oed.
Cafwyd mam Ethan, Shannon Ives, 28 oed, oedd wedi bod yn byw gyda'i mab a'i rhieni ar Ffordd Kingsley, Garden City, yn euog o achosi neu ganiatáu ei farwolaeth ac o greulondeb i blentyn.
Clywodd y llys bod Ethan Ives-Griffiths wedi cael ei “dargedu ar gyfer cam-driniaeth a’i fod wedi dioddef creulondeb".
Wrth agor yr achos fis diwethaf, dywedodd Caroline Rees KC, yr erlynydd, fod Ethan wedi dioddef “creulondeb achlysurol” ac yn ôl arbenigwr meddygol, y byddai wedi profi “poen a dioddefaint yn y dyddiau a’r wythnosau cyn ei farwolaeth”.

Roedd y llys wedi clywed bod Ethan gyda’i nain a’i daid yn yr ystafell fyw, tra bod ei fam i fyny’r grisiau ar ei ffôn, ar 14 Awst 2021, ddeuddydd cyn ei farwolaeth.
Dywedodd yr erlyniad fod tystiolaeth arbenigol yn awgrymu bod yr anaf angheuol wedi’i achosi bryd hynny, a bod Ethan Ives-Griffiths wedi llewygu o fewn munudau wedyn.
Dywedodd Michael a Kerry Ives wrth y rheithgor nad oedd dim wedi digwydd yn yr eiliadau cyn i Ethan lewygu, ond clywodd y llys fod arbenigwyr meddygol yn credu bod ei anaf i’r pen wedi’i achosi gan ddefnydd bwriadol o rym, a allai fod wedi cynnwys ysgwyd yn rymus.
Fe gafodd lluniau o gamera cylch cyfyng eu dangos i’r rheithgor o Michael Ives yn cario’r bachgen gerfydd ei fraich y tu allan i’w cartref.
Derbyniodd ei fod wedi esgeuluso Ethan a bod y ffordd yr oedd wedi ei gario, gan gydio yn rhan uchaf ei fraich, yn greulon. Ond gwadodd Michael Ives iddo ei gam-drin mewn ffyrdd eraill.

Pan gafodd Ethan ei archwilio gan feddygon ar ôl ei farwolaeth, fe wnaethon nhw ddarganfod bod ganddo anafiadau i'w gorff, a oedd yn ôl pob tebyg wedi eu hachosi gan ergydion yn y dyddiau cyn iddo lewygu.
Ymhlith yr anafiadau eraill roedd cleisiau ar ei goes a'i wyneb.
Dywedodd arbenigwyr wrth y llys y byddai Ethan wedi marw o fod angen dŵr o fewn dyddiau pe na bai wedi dioddef yr anaf i'r pen, ac ar adeg ei farwolaeth dim ond 10kg oedd ei bwysau.
Clywodd y rheithgor fod Shannon Ives wedi dychwelyd i gartref ei rhieni ar ôl ffoi rhag trais domestig o'i chartref yn yr Wyddgrug ym mis Mehefin 2021.
Fe gafodd hi ei chyhuddo gan ei rhieni o daro ei mab, gyda Michael Ives yn dweud wrth y rheithgor fod gan ei ferch "dymer" ac y byddai'n taro Ethan ddwywaith y dydd.
Ond dywedodd Shannon Ives wrth y llys fod ei rhieni'n "erchyll" ac wedi'i cham-drin pan oedd yn blentyn.
Fe fydd y tri diffynydd yn cael eu dedfrydu ar 3 Hydref.