Adroddiad yn nodi methiannau dro ar ôl tro mewn uned famolaeth
Mae adolygiad annibynnol wedi dod o hyd i "fethiannau dro ar ôl tro yn ansawdd y gofal" oddi mewn i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Tra bo'r adroddiad terfynol a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth yn nodi bod nifer o famau wedi cael profiadau cadarnhaol, mae "rhai menywod wedi cael, ac yn parhau i gael, profiad gwael neu drawmatig iawn," medd y ddogfen.
Mae Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol y Bwrdd Iechyd wedi bod yn destun craffu ers o leiaf 2019, ac yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, cafodd nifer o adolygiadau mewnol ac allanol eu cynnal.
Cafodd yr adolygiad annibynnol ei gomisiynu yn 2023 ar ôl i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru dynnu sylw at nifer o bryderon yn ystod beichiogrwydd ac wrth eni plentyn oddi mewn i'r bwrdd iechyd.
Rhwng 2018 a 2023, cofnododd y Bwrdd Iechyd 90 o farw-enedigaethau a 45 o farwolaethau newyddenedigol (babanod a fu farw o fewn 28 diwrnod i’w genedigaeth) o gyfanswm o bron i 17,000 o enedigaethau.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd gwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd eu canoli ar un safle yn Ysbyty Singleton, Abertawe.
Roedd yna lefelau isel ac anghyson o staffio rhwng 2021 a 2024, a cholli staff profiadol ar ôl y pandemig, medd yr adroddiad.
Yn ôl yr adolygiad, roedd angen gwell offer meddygol, a gwella’r oedi cyn derbyn meddyginiaeth poen.
Cafodd diffygion ym maes arbenigedd radioleg newyddenedigol, gofal iechyd meddwl a chefnogaeth bwydo ar y fron eu cofnodi hefyd.
Fe wnaeth yr adolygiad ddod o hyd i rywfaint o dystiolaeth o welliannau, gyda lefelau staffio wedi gwella ers 2024.
Dywedodd Cadeirydd yr Adolygiad, Dr. Denise Chaffer: "Rydym wedi nodi nifer o fethiannau yn ansawdd y gofal, ac er bod y bwrdd iechyd wedi cyflwyno newidiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae newidiadau pellach yn dal angen eu cwblhau ar frys."
Ymddiheuriad
Mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn yr argymhellion yn llawn, ac wedi llunio cynllun i gyflwyno gwelliannau.
Yn ôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Jan Williams, mae'r adolygiad wedi tynnu sylw at nifer o fethiannau, a phrofiadau sy'n "annerbyniol."
"Rydym yn ymddiheuro'n ddiffuant i'r menywod a'u teuluoedd sydd wedi dioddef o ganlyniad i hynny," meddai.
“Byddem yn hoffi diolch i'r menywod a'u teuluoedd sydd wedi cyfrannu tuag at yr adolygiad, er bod hynny o bosibl wedi bod yn brofiad poenus iddyn nhw, yn enwedig heddiw wrth i'r Adolygiad Annibynnol gael ei gyhoeddi."
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wedi codi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe "i'r ail lefel uchaf o ymyrraeth."
"Rydw i eisiau cynnig ymddiheuriad llawn ar ran Llywodraeth Cymru i'r holl fenywod a theuluoedd na chafodd y gwasanaeth na'r gofal roedden nhw yn eu haeddu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe," meddai.
"Ni ddylai'r profiadau a gafodd eu tanlinellu heddiw fyth ddigwydd eto," ychwanegodd.
Cyhoeddodd hefyd y bydd asesiad cenedlaethol o bob gwasanaeth mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru yn dechrau y mis hwn.