Carcharu dyn o Geredigion am achosi marwolaeth ei ffrind mewn gwrthdrawiad

Tymon Turner

Mae dyn o Geredigion a yrrodd dan ddylanwad alcohol a chyffuriau wedi’i garcharu am bron i bum mlynedd ar ôl achosi marwolaeth ei ffrind mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy. 

Fe gyfaddefodd Tymon Turner i achosi marwolaeth Jac Walters, 19 oed o Geredigion, drwy yrru’n ddiofal tra o dan ddylanwad alcohol, cetamin a MDMA yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth.  

Mae Turner, 21 oed, o Aberaeron, bellach wedi ei wahardd rhag gyrru yn ogystal. 

Roedd Turner yn gyrru car Ford Fiesta lliw arian ar hyd Ffordd Staunton yr A4136 yn Sir Fynwy tua chanol dydd ar ddydd Sul, 12 Tachwedd 2023 pan gollodd reolaeth ar y cerbyd. 

Bu farw Mr Walters, oedd yn teithio yn sedd cefn y car, yn y fan a’r lle. 

Roedd y gwasanaethau brys, gan gynnwys yr ambiwlans awyr, yn bresennol. 

Plediodd Turner yn euog o fod a chyffuriau dosbarth A, sef cocên, yn ei feddiant wedi iddo ymddangos yn y llys.

'Dinistriol'

Dywedodd y Rhingyll Shane Draper, sy’n uwch swyddog o uned ymchwilio gwrthdrawiadau Heddlu Gwent: “Mae hwn yn achos trasig sydd wedi arwain at golli bywyd yn ddiangen.

“Roedd Turner wedi gyrru’n ddiofal tra dan ddylanwad alcohol a chyffuriau ac fe gollodd rheolaeth ar ei gerbyd.” 

Dywedodd bod ei “fethiant ef i dalu sylw” yn sgil ei ddefnydd o alcohol a chyffuriau wedi arwain at “ganlyniadau dinistriol".

"Fel mae'r achos hwn yn ei ddangos, gall gyrru dan ddylanwad alcohol gael canlyniadau sy'n newid bywyd, neu hyd yn oed yn dod â bywyd i ben," meddai.

Cafodd Turner ei ddedfrydu i bedair blynedd ac wyth mis yn y carchar. 

Cafodd ei wahardd rhag gyrru am gyfnod o bum mlynedd ac fe fydd yn rhaid iddo wneud prawf er mwyn gallu gyrru eto. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.