Dros 25% o Brydeinwyr 'wedi dechrau eu siopa Nadolig yn barod'
15/09/2021
Mae dros 25% o Brydeinwyr wedi dechrau eu siopau Nadolig yn barod oherwydd bod prinder gyrwyr cyflenwi a dosbarthu yn bygwth gwneud dod o hyd i anrhegion yn anoddach, medd The Sun.
Mae’r ystadaegau, gafodd eu casglu gan Sitecore, hefyd yn dangos bod bron i hanner y bobl oedd wedi cymryd rhan yn anelu at fod o leiaf wedi dechrau prynu anrhegion erbyn mis Hydref.
Yn ôl Sitecore “bydd manwerthwyr yn gwynebu aflonyddwch yn y gadwyn gyflenwi, a allai olygu cwsmeriaid rhwystredig ac adolygiadau negyddol.”
Darllenwch y stori’n llawn yma.