Busnesau bach yng Nghaerdydd yn cael eu targedu gan ladron
Mae busnesau a siopau annibynnol mewn ardal o Gaerdydd yn rhybuddio eraill i fod yn ofalus ar ôl iddynt gael eu targedu gan ladron.
Yn ardal Y Rhath, mae yna nifer o achosion o ladrata wedi bod yn ddiweddar, gan gynnwys un achos a wnaeth ddigwydd i gaffi Blossom yn oriau man y bore ddydd Llun.
Roedd lleidr wedi torri mewn trwy’r nenfwd mewn fflat gwag uwchben y caffi, cyn gadael gyda £80 a chynnwys tun elusennol.
Mae perchennog y busnes, Selma Oran, yn dweud bod hi dan lot o straen o ganlyniad i’r digwyddiad.
“Dwi’n dioddef o ddermatitis a ddoe nath e danio eto oherwydd hwn. Dwi ddim yn cysgu’n iawn ac yn cadw edrych ar y camera.
“Yn y 18 mis diwethaf achos cyfnod clo Covid, ni wedi cael amser gwael. Ni’n gweithio mor galed a does neb yn haeddu hwn”.
Mae’r heddlu’n dweud bod nhw’n ymchwilio i’r mater ond does neb wedi eu harestio hyd yn hyn.
“Mae Heddlu De Cymru yn ymwybodol o nifer o achosion o ladrata yn ddiweddar yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd.
“Rydym yn annog busnesau i adolygu systemau diogelwch a'i gwneud yn glir nad oes arian parod ar ôl yn yr adeilad dros nos”.
Mae ymholiadau’n parhau am y digwyddiadau ac mae Heddlu De Cymru yn gweithio i fynd i’r afael â chynnydd posib.
Mewn popty cyfagos, Bruno's Pastéis de Nata, mae’r perchennog wedi cael profiad tebyg.
Dau fis ar ôl agor i ddrysau’r popty agor, cafodd ei dargedu.
“Roedd y lle yn llawn gwydr, roedd rhaid i fi daflu'r holl eitemau nes i gynhyrchu'r diwrnod cynt”, meddai’r perchennog, Bruno Pinho.
“Rwy’n trio neud y gorau i fy nghwsmeriaid ac i weld y cownter yn wag roedd e’n drist iawn iawn”.
Mae’r heddlu’n annog unrhyw un sy’n gweld ymddygiad amheus i ffonio’r llu ar 999.
Prif lun: Camera Cylch Cyfyng Caffi Blossom