Dedfrydu Cyn AS y Ceidwadwyr Cymreig ar ôl pledio'n euog i aflonyddu cyn-wraig

Katie Wallis

Mae cyn-AS Ceidwadol dros Ben-y-bont ar Ogwr a blediodd yn euog i aflonyddu ei chyn-wraig wedi cael ei dedfrydu i gyflawni gwaith cymunedol. 

Fis Mehefin fe blediodd Katie Wallis, 41 oed o Drebiwt, Caerdydd yn euog i aflonyddu Rebecca Wallis rhwng misoedd Chwefror a Mawrth eleni.

Katie Wallis – Jamie Wallis gynt – oedd AS Pen-y-bont ar Ogwr rhwng 2019 a 2024.

Mae Wallis bellach wedi cael gorchymyn cymunedol ar ôl iddi gael ei dedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun.  

Gadawodd nifer o negeseuon a nodyn llais i’w chyn-wraig, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Rebecca Lovell. 

Clywodd y llys bod Wallis wedi anfon negeseuon at Rebecca Lovell yn honni ei bod wedi bod yn “gas” iddi, a mynnu ei bod yn cael gwybod am ei phartner newydd. 

Roedd Wallis hefyd wedi defnyddio iaith anweddus. 

Ar 25 Chwefror fe wnaeth y cyn-AS ddefnyddio rhif anhysbys i fynnu y dylai £350,000 gael ei roi yn ei chyfrif banc.  

Mewn neges arall roedd Wallis wedi honni bod ei chyn-wraig a’i thad yn “rhagfarnllyd” gan ddweud ei bod yn gobeithio nad fyddant “fyth yn cael cyfnod hapus eto.” 

Mewn datganiad, dywedodd Rebecca Lovell wrth y llys: “Mae'r fenyw roeddwn i'n arfer bod wedi'i dinistrio. 

“Ni allaf fyth ddeall yr hyn rydw i wedi ei wneud i haeddu’r poen rydw i wedi ei dioddef."

Dywedodd hefyd iddi fyw mewn ofn, a'i bod wedi gorfod gosod camerâu CCTV ar ei chartref oherwydd pryderon y byddai Wallis yn ymddangos yno. 

Wrth siarad ar ran yr amddiffyniad, dywedodd Narita Bahra KC ei bod yn “siomedig” bod yr achos wedi cyrraedd y llys gan feirniadu Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron am beidio â delio â'r mater y tu allan i'r llys.

Roedd Wallis yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys PTSD a phroblemau yn ymwneud â mynd drwy’r broses o drawsnewid ei rhyw, meddai'r amddiffyniad. 

Rhoddodd y Barnwr Rhys Williams orchymyn cymunedol 12 mis i Wallis i'w gwblhau dros 12 diwrnod, yn ogystal â dirwy gwerth £1,264.

Mae gorchymyn yn ei le hefyd yn atal Wallis rhag cysylltu a Ms Lovell. 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.