Rhieni dyn a lofruddiodd tair merch fach yn Southport yn ymddiheuro i'w teuluoedd
Mae rhieni dyn a lofruddiodd tair merch fach yn Southport wedi ymddiheuro i'w teuluoedd nhw wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad cyhoeddus i'r ymosodiad y llynedd.
Ddydd Iau, clywodd ymchwiliad yn Neuadd y Dref Lerpwl gan Alphonse Rudakubana a Laetitia Muzayire a roddodd eu tystiolaeth drwy gyswllt fideo.
Roedd eu mab, Axel Rudakubana, yn 17 oed pan lofruddiodd Elsie Dot Stancombe, saith oed; Bebe King, chwech oed; ac Alice da Silva Aguiar, naw oed; a cheisio llofruddio 10 arall mewn dosbarth dawns Taylor Swift ar 29 Gorffennaf y llynedd.
Darllenodd Ms Muzayire, a symudodd i Gaerdydd o Rwanda gyda'i gŵr yn 2002, ac yna ymlaen i Southport, ddatganiad ar ran ei theulu.
"Nid oes unrhyw eiriau a all byth fod yn ddigon i fynegi ein galar a’n edifeirwch am y plant y cafodd eu bywydau eu cymryd oddi wrthynt, neu eu newid am byth, gan weithredoedd ein mab," meddai wrth yr ymchwiliad.
"Rydym yn meddwl amdanynt bob dydd ac rydym yn cario pwysau’r golled honno yn ein calonnau a’n gweddïau.
"Fel mam, rwy’n galaru’n fawr am fy mab fy hun, ond yn fwy na dim am y bywydau diniwed a gollwyd a’r bywydau sydd wedi’u dinistrio.
"Mae yna lawer o bethau yr hoffwn i a Alphonse wedi’u gwneud yn wahanol, unrhyw beth a allai fod wedi atal digwyddiad erchyll 29 Gorffennaf 2024.
"Am ein methiant, rydym wir yn ymddiheuro. Rydym yn gweddïo bob dydd dros y plant a’u teuluoedd, ac am gysur Duw i’w hamgylchynu."
'Crio drostyn nhw drwy’r amser'
Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Mr Rudakubana ei fod yn "wir yn ymddiheuro" i deuluoedd y dioddefwyr.
Gofynnodd Nicholas Bowen KC, sy'n cynrychioli'r teuluoedd, wrtho a oedd yn dymuno dweud unrhyw beth wrth y rhieni.
Dywedodd Mr Rudakubana: "Rwy’n crio drostyn nhw drwy’r amser oherwydd bod gen i atgof (o) fy mab, a drodd yn anghenfil.
"Pan fyddaf yn crio amdano, rwy’n eu cofio ac yn crio drostyn nhw. Rwy’n teimlo cymaint o gywilydd.
"Fe wnes i golli'r dewrder i achub eu hangylion bach. Mae’n ddrwg iawn gen i."
Ychwanegodd ei fod yn dal i garu ei fab "gymaint" gan ddweud: "Rwy’n gwybod ei fod yn beryglus, ond mae'n fab i mi."
Roedd yn ymddangos fod Mr Rudakubana yn crio ar un adeg pan ofynnwyd iddo a oedd wedi ofni bod ei fab wedi mynd i gyflawni ymosodiad ar ôl sylweddoli ei fod wedi gadael eu cartref yn Sir Gaerhirfryn ar fore 29 Gorffennaf 2024.
"Yr unig obaith yr oeddwn yn glynu wrtho oedd nad oedd wedi cymryd dim, nad oedd wedi mynd a bag ac nid oeddwn yn dychmygu y byddai'n cario cyllell yn rhywle arall," meddai.
"Roeddwn i'n glynu wrth y gobaith ei fod yn mynd am dro, pe bai'n cario bag byddwn i wedi rhedeg allan."
Dywedodd iddo ddysgu'n ddiweddarach o neges gan rywun yn ei grŵp eglwysig am yr ymosodiad.
"Roedd gen i ofn ar unwaith y gallai AR fod yn rhan o’r digwyddiad," meddai.
Dywedodd Ms Muzayire wrth yr ymchwiliad ei bod hefyd yn credu bod ei mab wedi mynd am dro.
"Does dim ffordd y byddwn i erioed wedi meddwl y byddai’n gwneud unrhyw beth ofnadwy fel hyn," meddai.
"Ar y pryd doeddwn i ddim yn gwybod y gallai wneud hynny."