URC wedi ‘colli’r ddadl’ dros dorri rhanbarth medd gwleidyddion
Mae gwleidyddion yn y Senedd wedi dweud bod Undeb Rygbi Cymru wedi “colli’r ddadl” dros dorri nifer y rhanbarthau rygbi yng Nghymru i dri.
Daw llythyr y pwyllgor chwaraeon at Richard Collier-Keywood, Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, wedi iddo roi tystiolaeth iddyn nhw’r wythnos diwethaf.
Yn y llythyr mae Delyth Jewell, cadeirydd y pwyllgor, yn dweud bod rygbi yng Nghymru bellach “mewn cyflwr enbydus” a’i bod yn bosibl bod y cadeirydd “wedi esgeuluso ei ddyletswyddau yn sylweddol”.
“Mae’r ansicrwydd ynghylch dyfodol y rhanbarthau wedi achosi cryn bryder i bobl o bob cwr o Gymru,” meddai.
“Ni ellir cyflawni unrhyw raglen newid heb feithrin consensws dros y newid hwnnw.
“Mae'n amlwg nad oes gan yr Undeb y consensws sydd ei angen i fwrw ymlaen â'r cynnig i leihau nifer y timau rhanbarthol o bedwar i dri.
“Rhaid i Undeb Rygbi Cymru gydnabod ei fod wedi colli'r ddadl dros ddyfodol y gêm broffesiynol.”
Daw ei sylwadau ar ran y pwyllgor traws-bleidiol wedi i Mr Collier-Keywood ddweud wrthyn nhw na fydd yn bosibl parhau i ariannu’r pedwar rhanbarth heb beryglu dyfodol rygbi yng Nghymru.
Mae’n fwriad gan yr Undeb ailstrwythuro trefn bresennol rygbi Cymru, gan gwtogi nifer y rhanbarthau o bedwar i dri.
Mae gwrthwynebiad chwyrn i'r posibilrwydd y gallai URC gael gwared â rhanbarth y Gweilch, gyda phryderon eu bod yn ffafrio uno'r rhanbarth â Chaerdydd.
Roedd Richard Collier-Keywood yn siarad o flaen Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol Senedd Cymru ddydd Iau.
Dywedodd bryd hynny: “Y ffaith yw, mae gennym bedwar tîm sydd ddim â digon o arian i allu bod yn gystadleuol.
“Does gennym ni ddim y cyllid i ariannu pob un o’r pedwar tîm, a sicrhau bod yna gyllid i ariannu isadeiledd rygbi yng Nghymru a fyddai’n caniatáu i ni wneud yr hyn rydych chi’n ein gofyn ni i’w wneud; sicrhau bod pobl yn cymryd rhan [yn y gêm] a hynny'r holl ffordd drwodd i rygbi proffesiynol.”
‘Esgeuluso’
Yn ei llythyr dywedodd Delyth Jewell bod y pwyllgor yn “synnu” nad oedd ‘Cynllun B’ os nad oedd y cynlluniau i gwtogi’r rhanbarthau yn mynd rhagddynt.
“Pe bai hyn yn wir, gallai fod yn arwydd eich bod yn esgeuluso'ch dyletswyddau yn sylweddol,” meddai.
“Rydym yn eich annog yn gryf i ddod o hyd i ddull gwahanol sy'n parhau i sefydlogi sefyllfa ariannol yr Undeb a chynnal hyder, ac sydd hefyd yn meithrin ymddiriedaeth clybiau a chefnogwyr.”
“Mae gan bobl Cymru ymdeimlad dwfn o berchnogaeth, balchder a chysylltiad emosiynol â’r gamp. Rhaid parchu a meithrin y cysylltiad hwnnw.
“Rhaid i'r Undeb osgoi sefyllfa lle mae’n ennill y bleidlais ond yn colli enaid rygbi Cymru.
“Byddem yn croesawu rhagor o eglurder ynghylch y materion sydd yn y llythyr hwn.”
Fis diwethaf fe gyhoeddwyd y byddai Undeb Rygbi Cymru yn wynebu Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol, gyda phleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Collier-Keywood.
Undeb Ardal Morgannwg Ganol sydd wedi arwain y galwadau. Maen nhw wedi eu lleoli o fewn rhanbarth y Gweilch.
Llun: Huw Evans