Llywodraeth y DU yn bwriadu ‘cysoni’ oed pleidleisio etholiadau i 16

Gorsaf Pleidleisio

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud y byddai gostwng oed pleidleisio etholiadau cyffredinol i 16 yn “cysoni” y drefn ar draws y DU.

Bydd pobl 16 oed yn cael pleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru a’r Alban ym mis Mai ond rhaid bod yn 18 i bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol ar hyn o bryd.

Bydd Bil Cynrychiolaeth y Bobl yn wynebu ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth gyda'r nod o newid hynny.

Mae'r Bil hefyd yn cynnwys rheolau newydd ar gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig a chyfyngiadau ar roddion tramor.

Dywedodd Ysgrifennydd Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Steve Reed mai “pobl ifanc yw dyfodol ein cenedl”. 

“Mae’r oedran pleidleisio wedi bod yn 18 ers iddo gael ei ostwng o 21 gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1969,” meddai.

“Bydd y newid hwn yn dod â chysondeb i’r oedran pleidleisio ar gyfer pob etholiad statudol ar draws y Deyrnas Unedig.”

Mae’r Blaid Geidwadol yn gwrthwynebu’r newid ac maen nhw wedi cyflwyno gwelliant i’r Bil.

Dywedodd y blaid y bydd gostwng yr oedran pleidleisio o 18 i 16 yn “anghyson,” ac y gallai cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig arwain at dwyll.

Dywedodd Ysgrifennydd cysgodol tai, cymunedau a llywodraeth leol, Syr James Cleverly: “Pan fydd Senedd San Steffan yn gwneud deddfau ar etholiadau a’r hawl i bleidleisio, dydy hi ddim yn pasio Bil arferol - mae’n ailysgrifennu’r rheolau sy’n penderfynu sut mae ASau, ac felly llywodraethau, yn cael eu dewis.

“Felly dylid gwneud newidiadau i’r rheolau hynny’n ofalus, ar ôl ymgynghori’n briodol, a gyda dealltwriaeth lawn o’r effeithiau posibl wedyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.