Datganiad y Gwanwyn: 'Cynllun economaidd ar y llwybr cywir mewn byd ansicr'
Wrth gyhoeddi diweddariad ar ei chynlluniau ar gyfer economi'r Deyrnas Unedig, dywedodd y Canghellor Rachel Reeves bod ei chynllun yn bwysicach fyth mewn byd sy'n fwy ansicr yn y dyddiau diwethaf, ers dechrau'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol.
Wrth gyhoeddi datganiad y gwanwyn, mynnodd bod rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yn dangos fod cynllun Llywodraeth y DU ar y llwybr cywir.
Nododd mai'r rhagolygon gan y swyddfa honno bellach ar gyfer twf yr economi yw 1.1% yn 2026, 1.6% yn 2027 a 2028, ac 1.5% yn 2029 a 2030.
Twf o 1.4% oedd y darogan fis Tachwedd ar gyfer 2026. Mae bellach wedi gostwng i 1.1%, sy'n debyg i'r hyn yr oedd economegwyr annibynnol yn ei ddisgwyl.
"Mae chwyddiant yn is, benthyca yn is, a safonau byw wedi codi," meddai'r canghellor.
Dywedodd Rachel Reeves y bydd diweithdra wedi cyrraedd ei lefel uchaf yn ddiweddarach y flwyddyn hon, gan ddisgyn bob blwyddyn wedi hynny, yn ystod cyfnod y rhagolygon.
"Adeg yr Etholiad Cyffredinol nesaf, bydd bobl yn gofyn a yw eu teulu mewn sefyllfa gryfach yn ariannol. Rwy'n benderfynol mai 'ydych' fydd yr ateb i'r cwestiwn hwnnw," ychwanegodd.
Hawliodd y bydd gan bobl £1,000 yn fwy yn eu pocedi bob blwyddyn erbyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
'Dim i'w ddweud'
Wrth ymateb i'r datganiad, dywedodd y canghellor cysgodol, y Ceidwadwr Mel Stride, nad oedd gan y canghellor "unrhyw beth i'w ddweud."
"Does dim cynllun yma," meddai.
Cyfeiriodd at sawl tro pedol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan fynnu bod Rachel Reeves yn gwybod fod lefel fenthyca'r llywodraeth bron ddwbwl yr hyn a gafodd ei ddarogan adeg yr Etholiad Cyffredinol.
Dywedodd Ben Lake, AS Plaid Cymru: "Dywedodd y Canghellor na fyddai unrhyw newidiadau polisi oni bai bod newid sylweddol yn y rhagolygon economaidd.
"Mae ofnau cynyddol y bydd gwrthdaro hirfaith yn y Dwyrain Canol yn effeithio ar brisiau nwy ac yn achosi ergyd sylweddol i ragolygon heddiw.
"Mae perygl go iawn y bydd y cynnydd hwn yn effeithio ar fusnesau a chartrefi Cymru. Mae busnesau bach - asgwrn cefn ein heconomi eisoes yn wynebu heriau sylweddol yn sgil prisiau ynni uwch, costau staffio uwch a threthi, ac nid ydynt mewn sefyllfa dda i amsugno unrhyw gynnydd pellach mewn prisiau.
"Dylai Llywodraeth y DU fod wedi defnyddio'r datganiad hwn i fynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn."
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, mae gan Lywodraeth y DU y cynllun economaidd cywir i ostwng costau byw a sicrhau fod yr economi yn tyfu ym mhob rhan o Gymru.
"Cadarnhaodd y Canghellor fod £555 miliwn yn ychwanegol ar gael ar gyfer Llywodraeth Cymru er mwyn buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel y Gwasanaeth Iechyd ac addysg," meddai Ms Stevens.
"Mae hynny'n golygu bod Llywodraeth y DU yn rhoi £6.5 biliwn yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn ystod cyfnod yr adolygiad gwariant."
'Effaith sylweddol'
Wedi araith Rachel Reeves, cyhoeddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol eu rhagolwg diweddaraf gan nod bod disgwyl i ddiweithdra gyrraedd 5.3% eleni.
4.9% oedd y darogan fis Tachwedd diwethaf.
Ar ôl cyrraedd ei uchafbwynt eleni, mae'r swyddfa yn rhagweld y bydd diweithdra yn gostwng yn raddol i 4.1% erbyn 2030.
Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hefyd yn rhagweld y bydd chwyddiant wedi disgyn o 3.4% yn 2025 i 2.3% yn 2026, ac yna i 2% o 2027 ymlaen.
Ond pwysleisiodd y swyddfa fod hwn yn gyfnod ansicr yn sgil y rhyfel yn y Dwyrain Canol.
"Gallai'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol, a ddechreuodd wrth i ni gwblhau'r ddogfen hon, gael effaith sylweddol iawn ar economi'r byd a'r Deyrnas Unedig," meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Cyfrifioldeb Cyllidebol.