Angen i rai o staff Cyngor Gwynedd 'feddwl yn galed am eu swyddi' medd awdur adroddiad Foden

Angen i rai o staff Cyngor Gwynedd 'feddwl yn galed am eu swyddi' medd awdur adroddiad Foden

Mae awdur adroddiad damniol ddaeth i'r casgliad bod yr awdurdodau wedi colli dros 50 o gyfleoedd i atal y pedoffeil Neil Foden rhag cam-drin wedi dweud y dylai unigolion mewn swyddi diogelu plant yng Ngwynedd a fethodd a gweithredu yn yr achos "feddwl yn galed am eu swyddi."

Fe gafodd adroddiad Jan Pickles OBE, 'Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder', ei gyhoeddi ddydd Mawrth, ac roedd yn nodi 52 o gyfleoedd a gollwyd i atal Neil Foden yn y gorffennol.

Carcharwyd Neil Foden y llynedd am 17 o flynyddoedd am gam-drin pedair merch yn rhywiol.

Mae awdur yr adroddiad hefyd yn galw ar Gyngor Gwynedd i ystyried "camau gweithredu" yn erbyn swyddogion oddi fewn i'r awdurdod sydd wedi methu a chyflawni eu dyletswyddau sylfaenol i amddiffyn plant.

Image
Neil Foden
Neil Foden - testun adroddiad damniol 'Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder'

Wrth siarad mewn cyfweliad arbennig â Newyddion S4C, dywedodd Ms Pickles: "I'r unigolion hynny sy'n gyfrifol am y rolau a'r swyddogaethau hynny, dylent, yn fy marn i, feddwl yn galed am eu swydd. 

"Ac fel cyflogwr, dylai Cyngor Gwynedd feddwl am gymryd camau gweithredu" ychwanegodd Jan Pickles.

Yn yr achos yn erbyn Neil Foden yn Llys y Goron yr Wyddgrug yr haf diwethaf, fe wnaeth y Barnwr Rhys Rowlands nodi methiannau oddi fewn i system addysg y sir, ac y dylai fod swyddogion wedi sylweddoli beth oedd yn mynd ymlaen, gyda "chadw cofnodion" yn fethiant sylfaenol.

Dewrder

Fel rhan o'r un cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Jenny Williams, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru, "fod rhaid cofio mai dewrder plentyn lwyddodd i stopio Foden yn y pen draw", ac nid unrhyw swyddog corfforaethol nac unrhyw weithdrefnau gwarchod plant.

Ychwanegodd Ms Williams: "Y ffordd oedd o [Foden], fel mae Jan Pickles wedi sôn yn yr adroddiad, oedd o’n mynd ar ôl plant bregus. Oedd o’n cael gweld nhw yn ei swyddfa, ar ben ei hun am oriau, mynd a plant tu allan i’r ysgol. Di huna ddim yn arferol.

"Dyla bod cwestiynau wedi cael eu gofyn o’r munud yna o’r ysgol, ac wrth gwrs fel da ni’n dallt wedyn, mi ‘nath staff ddechra codi pryderon, mi wnaeth plant eraill dechrau godi pryderon.

“Rhaid i ni gofio, mi gafodd Foden ei ddal oherwydd plentyn. Plentyn ddoth ymlaen yn deud ‘ma hyn yn digwydd i fi.’ Felly mae o’n gwestiwn da i ofyn, be aeth o’i le?"

Image
Adroddiad Foden
Jenny Williams, Cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru

Dywedodd Jan Pickles nad oedd ganddi unrhyw amheuon fod Neil Foden wedi targedu merched bregus drwy gydol ei yrfa, a'i bod hi wedi siarad gydag un ddioddefwraig sy'n dweud iddi gael ei cham-drin yn ystod blwyddyn gyntaf Foden yn gweithio fel athro yn 1979.

Ac roedd Ms Pickles a Ms Williams yn gytûn ei bod yn "bosib iawn, pe tai'r un plentyn 'na ym mis Medi 2023 heb ddod ymlaen i ddweud beth oedd wedi bod yn digwydd iddi, yna y byddai Foden yn parhau i grŵmio a cham-drin plant hyd heddiw."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd mewn ymateb i gyfweliad Jan Pickles OBE gyda Newyddion S4C:

“Mae Cyngor Gwynedd yn derbyn holl ganfyddiadau’r Adolygiad Ymarfer Plant; yn cymryd cyfrifoldeb am y methiannau sy’n cael eu hamlygu; yn ymddiheuro’n gwbl ddidwyll i’r holl ddioddefwyr ac yn ymrwymo i weithredu ar argymhellion yr adroddiad a gwella trefniadau diogelu yn ysgolion y sir.

“Byddwn yn edrych yn fanwl ar bob cyfle a fethwyd sydd wedi ei adnabod yn yr adroddiad, gan gynnwys sut y bu i staff ymateb i wahanol sefyllfaoedd.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.