Bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ‘dargyfeirwyr gwynt’ ar Bont Britannia

Ken Skates a Pont Britannia

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ‘dargyfeirwyr gwynt’ (wind deflectors) ar Bont Britannia.

Byddai'r rhwystrau bob ochr i'r ffordd yn golygu nad oes angen cau'r bont mor aml mewn gwyntoedd cryfion, medden nhw.

Maen nhw hefyd yn bwriadu cyflwyno system terfynau cyflymder amrywiol.

Ond gwrthodwyd y syniad o lwybr teithio llesol ar draws Pont Britannia ar sail “y lefel isel o ddefnydd gan y cyhoedd” a ffactorau eraill.

Roedd “lled cyfyngedig y bont” yn gwneud opsiwn arall er mwyn rheoli traffig, sef System llif llanw tair lôn, yn heriol medden nhw ond byddai yna astudiaethau pellach yn cael eu cynnal.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates nad oedden nhw chwaith “wedi diystyru trydedd bont yn y dyfodol”.

Ond dywedodd eu bod nhw’n credu “y gellir gwneud mwy yn y tymor byr i ganolig i wella gwydnwch Pont Britannia a'r cysylltiadau rhwng Ynys Môn a'r tir mawr”.

Image
Mae gan Pont Merswy ddargyfeirwyr gwynt bob ochor i'r ffordd
Mae Pont Merswy yn esiampl o bont sydd â dargyfeirwyr gwynt bob ochr i'r ffordd

'Cau'r bont'

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried argymhellion gwahanol gan Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (NWTC) a gafodd eu cyflwyno ym mis Rhagfyr 2023.

Ar bwnc Dargyfeirwyr gwynt ar Bont Britannia dywedodd Ken Skates bod yr astudiaeth wedi dod i’r casgliad y byddai gosod dargyfeirwyr gwynt “yn effeithiol ac yn lleihau cyfyngiadau traffig ar y bont yn sylweddol”.

“Disgwylir i osod y dargyfeirwyr hyn gynyddu capasiti gweithredol y bont drwy leihau'r angen i gau'r bont oherwydd y gwynt, a thrwy hynny leihau'r angen i ddibynnu ar Bont Menai pan fydd Pont Britannia ar gau.

“Rwyf bellach wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â gwaith manwl pellach, gan gynnwys arolygon a dadansoddiadau strwythurol, asesiad effaith treftadaeth, a dyluniad manwl y dargyfeirwyr gwynt.”

Ar bwnc cyflwyno terfynau cyflymder amrywiol, dywedodd y bydd yn lleihau nifer y gwrthdrawiadau ar yr A55 o amgylch y bont yn effeithiol. 

“Disgwylir i'r dull integredig hwn wella ymhellach reolaeth gyffredinol y llif traffig ac effeithlonrwydd wrth ymateb i ddigwyddiadau,” meddai.

'Gwerth isel am arian'

Ond roedd wedi penderfynu gwrthod cynlluniau ar gyfer llwybr teithio llesol ar draws pont Britannia, meddai.

“Cafodd opsiynau ar gyfer cyflwyno llwybr cerdded, beicio ac olwyna ar draws Pont Britannia eu hadolygu a'u datblygu,” meddai.

“Roedd yr opsiynau hyn yn cynnwys llwybr ar lefel y rheilffordd, dyluniadau cantilifer ar lefel y ffordd a chulhau cerbytffordd yr A55, ond rydyn ni bellach wedi penderfynu na fyddai datblygu'r opsiynau hyn ymhellach yn hyfyw. 

“Daethpwyd i'r casgliad hwn oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys costau amcangyfrifedig uchel sy'n arwain at werth isel am arian, y lefel isel o ddefnydd gan y cyhoedd a ragwelwyd ac adborth gan randdeiliaid. 

“Felly, rwyf wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r opsiynau hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.