Dyn o Geredigion yn pledio’n ddi-euog mewn achos twyll honedig yn ymwneud â bridio cŵn
Mae dyn o Geredigion wedi pledio’n ddi-euog mewn cysylltiad â chyhuddiad o fridio cŵn anghyfreithlon a thwyll.
Fe wnaeth Thomas John Jones, 27 oed, o Brengwyn ger Llandysul ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.
Mae’n wynebu cyhuddiad yn ymwneud â bod â rhan mewn cynnal busnes yn annibynnol ar unrhyw safle masnachu busnes neu elw at ddiben twyllodrus, sef bridio cŵn, prynu cŵn a’u gwerthu wedi hynny, neu weithgareddau masnachol cysylltiedig eraill yn ymwneud â chŵn.
Mae'r achos wedi cael ei ddwyn gan Gyngor Sir Ceredigion.
Siaradodd Thomas John Jones, oedd yn gwisgo siwt du, crys gwyn a thei glas, i gyflwyno ei ble.
Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe unwaith eto ar 15 Rhagfyr.