
'Pob diwrnod yn frwydr i’r menywod' yn ôl cyn-weithiwr Heddlu Dyfed-Powys
'Pob diwrnod yn frwydr i’r menywod' yn ôl cyn-weithiwr Heddlu Dyfed-Powys
Mae cyn-weithiwr yn Heddlu Dyfed-Powys yn dweud fod “pob diwrnod yn frwydr i wneud eich swydd” oherwydd ymddygiad rhai o’r dynion yno.
Roedd Carys Phillips yn un o naw o ddioddefwyr wnaeth dystio yn erbyn yr Uwch-arolygydd Gary Davies ym mis Ebrill eleni.
Cafodd Davies ei ddiswyddo am gamymddygiad difrifol ar ôl ymddwyn yn fisogynistiaidd ac amhriodol tuag at gyd-weithwyr benywaidd rhwng 2017 a 2020.
“O’dd Gary yn creu y diwylliant tocsig yna, ac fe fydde pobl o’i gwmpas e unai yn bihafio yr un peth neu yn ignoro fe,” meddai Carys Phillips oedd yn gweithio ym mhencadlys y llu yn Llangynnwr.
“O’dd e’n ‘them and us’ rhwng y menywod a dynion, ac fe fydden nhw yn referrio i ni fel, ‘the girls’.”
“Bydden nhw’n siarad drostoch chi mewn meetings, ddim gwahodd chi i meetings,” meddai wrth raglen Y Byd ar Bedwar.
“O’dd lot o unnecessary pressure ar y menywod. O’dd e’n teimlo fel bach o gêm - who can we tip over the edge?”

Mae Carys yn dweud i’r ymddygiad waethygu ar ôl i’w hadran gael ei hail-strwythuro yn 2019, gydag un cyfarfod gyda Gary Davies yn aros yn y cof.
“O’n i’n siarad i Gary, a o’dd e jyst yn syllu ar chest fi. O’dd e’n prolonged stare, dim jyst glance.”
“O’n jyst yn teimlo fel object.”
“Ar ôl hwnna, wnes i stopio mynd mewn i’r swyddfa mor aml achos o’n i’n meddwl, 'os bydde rhywbeth yn digwydd, sai’n credu bydde neb yn credu fi'."
Gyda’r sefyllfa yn effeithio ar ei hiechyd meddwl, mae Carys yn dweud nad oedd dewis arall ond i adael ei swydd gyda Heddlu Dyfed-Powys yn 2022, ar ôl wyth mlynedd gyda’r llu.
Tair blynedd o ymchwiliad yn “straen”
Fe gafodd Carys yr hyder i wneud cwyn am Gary Davies cyn iddi adael y llu ym mis Mai 2022, ond fe gymerodd tan fis Ebrill eleni i’r gwrandawiad camymddygiad gymryd lle.
Yn ystod yr amser hwn, roedd Gary Davies ar gyflog Uwch-arolydd llawn, sydd fel arfer yn o leiaf £80,000 y flwyddyn.
“Fi ’di aros tair blynedd am hwn, o’dd yn lot o anxiety a stress,” meddai Carys oedd yn un o naw oedd yn rhoi tystiolaeth yn ei erbyn.
Clywodd y panel i Gary Davies gyffwrdd â dwy fenyw heb ganiatâd mewn parti Nadolig, iddo greu diwylliant o glwb i fechgyn a’i fod yn diystyrru barn y menywod o fewn Heddlu Dyfed-Powys.
“Ro’n i’n teimlo lot o relief yn darllen beth ddigwyddodd i bawb arall a gweld mai dim dim ond i fi na’th hwn ddigwydd.
“Achos yn gweithio ’na, I felt like I was going crazy a chi’n dechre credu mai chi yw’r broblem, ond na, dim ni o’dd y broblem ond fe.”
Er gwaetha’r achos llwyddiannus yn ei erbyn, mae Carys yn dweud bod tipyn o waith eto i’w wneud i newid diwylliant ac i drin menywod yn deg o fewn y llu.
“Jyst achos bod Gary wedi mynd dyw e ddim yn golygu bod y misogyny i gyd wedi mynd, achos weles i fe o bobl eraill, a ma’ nhw dal yn gweithio ’na.
“Ma’r diwylliant tocsig ’na jyst yn tyfu a thyfu, a bydd pwynt yn dod lle mai dim ond y bad apples fydd ar ôl.”

“Llawer mwy o waith i’w wneud”
Mewn ymateb fe ddywedodd Ifan Charles, Prif Gwnstabl dros dro Heddlu Dyfed-Powys ei “fod yn sylweddoli fod llawer mwy o waith i’w wneud” wrth ddelio gydag achosion fel hyn.
“Rwy’n flin iawn i’r dioddefwyr oedd yn rhan o’r ymchwiliad yna ac yn y sefyllfa gyda Gary Davies, roedd e wedi cymryd llawer gormod o amser.
“Ni am wneud heddlu Dyfed-Powys yn lle ni moen bod yn barchus tuag at ein gilydd, a bod ni’n gweithio mor galed â phosib i roi’r gwasanaeth gorau i ddioddefwyr a’r gymuned.”
Wrth i gyflwynydd Y Byd ar Bedwar, Nest Jenkins, ei holi am y bobl eraill wnaeth ymddwyn mewn ffordd debyg tuag at fenywod, mae’n dweud “ei fod yn synnu i glywed hynny.”
“Ni’n gweithio’n galed i geisio rhoi hyfforddiant fel bod pobl yn gallu siarad lan pan ma nhw’n gweld pobl yn ymddwyn fel hyn.
“Mae’r ffaith bod Gary Davies wedi’i ddiswyddo yn hela neges clir i bawb arall o fewn y llu ynghylch beth sy’n dderbyniol a beth sydd ddim o ran safonau proffesiynol.”
Gwyliwch rhaglen Y Byd ar Bedwar: Yn erbyn y llu nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.