Dod o hyd i gorff mewn cerbyd oedd ar dân ym Mhorthcawl

Ffordd Mackworth

Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff mewn car ar ôl i gerbydau fynd ar dân ym Mhorthcawl ddydd Iau.

Cafodd yr heddlu wybod gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am 02.50 bod sawl cerbyd ar dân ar Stryd Mackworth yn y dref ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi diffodd y tân ac yna wedi dod o hyd i gorff yn un o’r cerbydau.

Nid yw’r person a fu farw wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, ac nid yw’r gwasanaethau brys eto yn gwybod beth achosodd y tân.

Mae rhan o Ffordd Mackworth, rhwng y traeth a Heol Bungalow, ar gau.

Mae ymchwiliadau'n parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.