Rhyddhau pennaeth ysgol a gafodd ei garcharu am ymosod ar athro arall

Anthony Felton

Mae pennaeth ysgol a gafodd ei garcharu am ymosod ar athro arall mewn ysgol yn Aberafan ger Port Talbot wedi ei ryddhau bedwar mis ar ôl iddo gael ei ddedfrydu. 

Cafodd Anthony Felton ddedfryd o garchar am ddwy flynedd a phedwar mis ar ôl iddo ymosod ar ddirprwy bennaeth Ysgol Gatholic Sant Ioan, Richard Pyke.

Roedd yr achos yn ymwneud â chenfigen yn ymweud ag aelod benywaidd o staff yr ysgol. 

Yn ôl y gwasanaeth carchardai, mae Anthony Felton yn gorfod byw o dan amodau llym ac yn gwisgo tag.

Plediodd Anthony Felton o Orseinon yn euog i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol mewn achos ym mis Ebrill.

Roedd y prifathro 54 oed yn ei waith yn Ysgol Gatholig Sant Ioan ar 5 Mawrth 2025 pan ymosododd ar ei gydweithiwr.

Roedd y dioddefwr, Richard Pyke, 51 oed, yn eistedd ar gadair pan ddaeth Felton y tu ôl iddo ac estyn ei arf cyn taro Mr Pyke ar ei ben sawl gwaith.

Dioddefodd Mr Pyke mân anafiadau ac mae wedi rhoi caniatâd i'r fideo o'r ymosodiad gael ei gyhoeddi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.