Achos Ysgol Dyffryn Aman: Aelod o'r rheithgor yn gwadu cyhuddiad

Christopher Elias

Mae cyn-aelod o reithgor wedi gwadu cyhuddiad sy’n ymwneud â chwalu’r achos llys cyntaf ynghylch y trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman.

Fe ymddangosodd Christopher Elias, 45, gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau wedi'i gyhuddo o ymddygiad gwaharddedig gan aelod o reithgor ar ddyddiad rhwng Medi 29 a Hydref 10 y llynedd.

Mae'r cyhuddiad yn ymwneud â chwalu'r achos cyntaf wrth erlyn merch a drywanodd dwy athrawes a disgybl yn yr ysgol yn Rhydaman.

Cafodd merch yn ei harddegau, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, ei dedfrydu i 15 mlynedd o garchar yn gynharach eleni am geisio llofruddio Fiona Elias, Liz Hopkin a'r disgybl yn yr ysgol yn dilyn ail achos llys.

Chwalodd yr achos cyntaf ym mis Hydref y llynedd, gyda'r barnwr yn dweud bod hynny o ganlyniad i "anghysondeb mawr yn y rheithgor".

Dywedodd Christopher Elias, o Millbank, Waunceirch, Castell-nedd Port Talbot, y byddai yn pledio yn ddi-euog ac fe gadarnhaodd ei ddyddiad geni a’i gyfeiriad.

Fe wnaeth y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke, Cofiadur Caerdydd, ryddhau Elias ar fechnïaeth ddiamod tan wrandawiad pellach ar Fedi 26.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.