Marwolaethau Trelái: Heddwas oedd yn gyrru fan yr heddlu i wynebu gwrandawiad camymddwyn

heddlu trelai.jpg

Mae ymchwiliad wedi dod i’r casgliad y dylai heddwas oedd yn gyrru fan heddlu wynebu gwrandawiad camymddwyn ar ôl marwolaeth dau fachgen yn Nhrelái yn 2023.

Roedd anhrefn ar strydoedd yr ardal yng Nghaerdydd ym mis Mai'r flwyddyn honno yn dilyn marwolaethau dau fachgen ifanc, Kyrees Sullivan, 16 oed, a Harvey Evans, 15 oed.

Dangosodd delweddau CCTV fan Heddlu De Cymru yn dilyn y bechgyn ar feiciau trydan cyn iddyn nhw fod mewn gwrthdrawiad angheuol yn ddiweddarach.

Wrth i densiynau gynyddu rhwng pobl leol a’r heddlu, cafodd dwsinau o blismyn eu hanafu a chafodd ceir eu rhoi ar dân.

Dywedodd Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ddydd Iau eu bod nhw wedi dod i’r casgliad fod gan heddwas oedd yn gyrru fan cyn y gwrthdrawiad “achos o gamymddwyn difrifol i’w ateb”.

Roedd hynny’n ymwneud â chywirdeb yr adroddiadau a roddodd i’w gydweithwyr ar ôl y gwrthdrawiad.

Roedd “anghysondebau” a “gwrthdaro” posibl yn y wybodaeth a roddwyd gan y swyddog a allai dorri safonau gonestrwydd ac uniondeb yr heddlu, medden nhw.

Daeth ymchwilwyr yr IOPC i’r casgliad hefyd fod gan y swyddog achos disgyblu i’w wynebu mewn cysylltiad â’i yrru a’r iaith a ddefnyddiodd yn lleoliad y gwrthdrawiad.

Serch hynny, daeth yr ymchwiliad hefyd i’r casgliad bod y fan hanner milltir i ffwrdd o’r beic trydan, ac ar ffordd wahanol, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Doedd yna ddim tystiolaeth o unrhyw gyffwrdd rhwng y fan heddlu a’r beic trydan cyn y gwrthdrawiad.

Image
Harvey Evans Kyrees Sullivan
Kyrees Sullivan, 16 oed, a Harvey Evans, 15 oed.

'Adolygiad trylwyr'

Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn parhau gyda theuluoedd Kyrees a Harvey a phawb yr effeithiwyd arnynt o ganlyniad i golli bywydau rhai mor ifanc. 

“Rydyn ni’n gwybod fod marwolaethau’r bechgyn wedi cael effaith mawr ar y gymuned leol.

“Ein rôl ni, pan fydd rhywun yn marw yn dilyn cyswllt â’r heddlu, yw archwilio’r holl amgylchiadau sy’n ymwneud â’r digwyddiad hwnnw.

“Edrychodd ein hymchwiliad annibynnol ar y cysylltiad â gafodd Heddlu De Cymru gyda’r bechgyn cyn y gwrthdrawiad, a hefyd yr hyn a ddywedwyd gan swyddogion yn y fan a’r lle ac yn ddiweddarach.

“Ar ôl adolygiad trylwyr o’r dystiolaeth honno rydym wedi penderfynu y dylai swyddog wynebu achos disgyblu. 

“Mater i banel disgyblu’r heddlu fydd penderfynu a yw’r honiadau wedi’u profi.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Simon Belcher bod yr heddlu wedi cydweithredu'n llawn ag ymchwiliad yr IOPC.

"Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr ymchwiliad annibynnol a'r cwest yn y dyfodol yn rhoi atebion i'r nifer o gwestiynau sydd wedi'u codi am yr achos hwn,” meddai.

"Mae ein meddyliau, fel bob amser, gyda theuluoedd a ffrindiau Harvey a Kyrees a phawb yr effeithiwyd arnynt gan eu marwolaethau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.