Carcharu dyn o Fangor am droseddau rhyw yn erbyn dwy ferch ifanc

Cian Williams

Mae dyn o Fangor wedi ei garcharu am naw mlynedd am droseddau rhyw yn erbyn dwy ferch yn eu harddegau.

Roedd Cian Williams, sy’n 20 oed ac o Benrhosgarnedd, wedi cam-drin un o'r plant tra roedd ar fechnïaeth wedi'i gyhuddo o feithrin perthynas amhriodol gyda merch ifanc arall.

Targedodd y ddwy ferch ar y cyfryngau cymdeithasol, er eu bod nhw wedi dweud eu bod nhw’n 13 ac 14 oed ar y pryd.

Ceisiodd gasglu un o'r merched o'r ysgol, gan honni ei fod yn frawd iddi, ac roedd wedi cynnig cyffuriau iddi yn gyfnewid am ffafrau rhywiol.

Ar ôl ei arestio, cymerodd swyddogion ei ffonau symudol, ac roedd â bron i 200 o ddelweddau o'r hyn a oedd yn ymddangos fel merched ifanc arnynt.

Yn ddiweddarach fe wnaeth gyfaddef i nifer o gyhuddiadau gan gynnwys cyfathrebu rhywiol â phlentyn, dau gyhuddiad o achosi neu annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol a phedwar cyhuddiad o feithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher fe gafodd Cian Williams ei ddedfrydu i naw mlynedd o garchar.

Cafodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol amhenodol hefyd, sydd yn ei atal rhag mynd yn agos at ysgolion neu fynd iddynt, a gorchymyn atal 15 mlynedd i amddiffyn y dioddefwr.

Dywedodd y swyddog a fu’n ymchwilio i’r achos, Fflur Lloyd-Jones: “Yn gyntaf, hoffwn ganmol y dioddefwyr a’u teuluoedd sydd wedi dangos dewrder drwy gydol yr ymchwiliad a’r achos llys.

“Gall fod yn anhygoel o anodd cymryd y cam cyntaf hwnnw wrth riportio digwyddiadau o’r fath i’r heddlu ond, drwy riportio’r troseddau hyn i ni, maen nhw wedi ein helpu i ddod â Williams o flaen y llys.

“Dwi’n gobeithio y bydd y dedfrydu’n rhoi rhywfaint o heddwch meddwl iddyn nhw o wybod na all Williams achosi niwed iddyn nhw nac unrhyw blentyn arall.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.