Arestio dyn yn y gogledd am ymddygiad ‘anweddus’
Mae Heddlu’r Gogledd wedi arestio dyn o Sir y Fflint am “ddatguddiad anweddus” a throseddau trefn gyhoeddus yn dilyn digwyddiad ym Morfa Bychan ddydd Mercher.
Mae’r dyn wedi cael ei gadw yn y ddalfa yng Nghaernarfon ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron llys ddydd Gwener.
Dywedodd y llu: “Yn dilyn ymgynghoriad â Gwasanaeth Erlyn y Goron heddiw, mae'r dyn wedi'i gyhuddo o ddatguddiad anweddus a throseddau trefn gyhoeddus eraill.
“Mae'n parhau yn nalfa'r Heddlu a bydd yn ymddangos gerbron y llys yfory.”