Teyrnged i 'dad rhyfeddol' fu farw mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam

Pawel Dlugoz

Mae teulu beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mwlchgwyn, Wrecsam ddydd Sul, wedi rhoi teyrnged iddo.

Roedd Pawel Dlugosz yn 49 oed ac yn byw yn ardal St Helens.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Fel gwraig a merch Paweł, mae ein calonnau wedi torri'n wirioneddol y tu hwnt i eiriau. 

"Ef oedd goleuni ein bywydau, gŵr ymroddedig a thad rhyfeddol a roddodd gariad, chwerthin a nerth diddiwedd inni. 

"I ni, roedd yn bopeth. I bawb oedd yn ei adnabod, ef oedd y dyn a oedd bob amser yn gofalu am eraill, nad oedd byth yn petruso i helpu, ac a oedd yn gwneud i bobl deimlo'n ddiogel ac yn cael gofal amdanynt."

Ychwanegodd y teulu fod yr ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd yn dal i fynd yn ei flaen, ac nid oeddynt eto'n gwybod yn union sut y digwyddodd y farwolaeth. 

"Gofynnwn yn garedig ac ar frys, os gwelodd unrhyw un y digwyddiad ac nad ydynt wedi dod ymlaen at yr heddlu eto, i wneud hynny. 

"Gallai unrhyw wybodaeth ein helpu i ddod o hyd i atebion yn yr amser erchyll hwn."

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000701685.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.