Antur elusennol o Langollen i Wlad Thai ar gefn beic

ITV Cymru

Antur elusennol o Langollen i Wlad Thai ar gefn beic

Mae tri dyn ifanc o ardal Wrecsam wedi dechrau ar daith o Langollen i Wlad Thai ar gefn beic.

Pwrpas taith Dyfan Hughes, 17, James Thomas, 18, a Louis Dennis, 18, yw codi arian er cof am dad eu ffrind Harrison, a fu farw o broblemau gyda’i galon.

“Ers i’w dad o farw, mae wedi byw yng Ngwlad Thai,” dywedodd Louis.

“Da’ ni isho gweld y byd, so, os da’ ni’n seiclo at Harrison [gallwn] godi arian dros ei dad ac i’r British Heart Foundation.”

Ers cychwyn ar y daith ddechrau mis Awst, maen nhw wedi teithio drwy Loegr a'r Iseldiroedd, ac maen nhw bellach wedi cyrraedd Yr Almaen.

Bydd Dyfan yn dathlu ei ben-blwydd yn 18 pan fyddan nhw’n teithio drwy’r Almaen ac maen nhw’n gobeithio bydd rhai o’u ffrindiau yn hedfan yno i ddathlu gyda nhw.

Bydd eu taith yn eu tywys nhw drwy nifer o wledydd yn Ewrop, gan gynnwys Awstria, Hwngari, Serbia a Bwlgaria.

Dros y misoedd nesaf, eu bwriad ydy cyrraedd Tblisi yn Georgia, lle byddan nhw’n aros am ychydig o fisoedd tan bod y tywydd yn gwella.

Rhieni 'ofnus'

Wrth siarad am y gefnogaeth gan eu teuluoedd, dywedodd y bechgyn: “Roedd ein mamau ni bach yn ofnus.

“Ond, maen nhw wedi dod i’r arfer â hyn nawr… maen nhw’n caru be’ dyn ni’n ‘neud.

“Da ni’n mynd trwy Dwrci yn araf iawn,” dywedodd Louis.

Er mwyn cadw’n gynnes, maen nhw’n bwriadu dilyn arfordir deuheol Twrci gan y bydd hi’n aeaf erbyn iddyn nhw gyrraedd yno.

Hyd yn hyn, maen nhw wedi adeiladu dilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol gyda dros 28,000 o ddilynwyr ar Instagram a dros 88,000 ar TikTok.

Ac maen nhw hefyd wedi llwyddo i godi dros £1,800 ar gyfer Sefydliad Prydeinig y Galon.

Maen nhw’n bwriadu cyrraedd Gwlad Thai erbyn Hydref 2026.


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.