'Bydda' i fyth yn maddau i Hamas': Adroddiad arbennig o Tel Aviv
Adroddiad Prif Ohebydd Newyddion S4C Gwyn Loader, o Tel Aviv.
Mae disgwyl i wystlon Israelaidd sydd wedi bod yn Gaza ers dwy flynedd gael eu rhyddhau yn fuan, gydag adroddiadau bellach y gallai hynny o bosibl ddigwydd ddydd Sul.
Yn unol â'r cytundeb cadoediad, mae'n rhaid i hynny ddigwydd erbyn 12:00 ddydd Llun yn amser y Dwyrain Canol.
Bydd cannoedd o garcharorion Palesteinaidd yn Israel hefyd yn cael eu rhyddhau fel rhan o’r cytundeb.
Mewn rali enfawr nos Sadwrn, fe ddaeth dros 400,000 ynghyd yn sgwâr y gwystlon, Tel Aviv, yn ôl y trefnwyr.
Yn annerch y dorf, roedd llysgennad arbennig America i’r Dwyrain Canol, Steve Witkoff yn ogystal â merch yr Arlywydd Trump, Ivanka a’i gwr, Jared Kushner.
Bu’n rhaid iddo oedi ei araith wrth i’r dorf floeddio “Diolch Trump”.
Ond pan ddiolchodd e hefyd i Brif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, fe drodd y diolchiadau yn wrthwynebiad chwyrn.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C yn y digwyddiad, dywedodd Itzik Horn, tad Eitan Hotn sydd yn dal i fod yn gaeth yn Gaza: “Dim ond un person sydd i’w ddiolch am y cytundeb hwn, yr Arlywydd Trump. Mae e’n arweinydd go iawn a gobeithio un dydd bydd gennym ni arweinwyr fel hyn.”
Cafodd un o feibion eraill Itzik, Iair, hefyd ei gipio ar 7 Hydref 2023. Cafodd e ei ryddhau yn gynharach eleni.
'Parchu gwladwriaeth Israel'
Dywedodd eu tad wrth Newyddion S4C fod poen y ddwy flynedd diwethaf yn “annisgrifiadwy” ac y byddai’n “cymryd amser” i ddod dros y profiad.
“Bydda' i fyth yn maddau i Hamas” meddai “ond dw’i yn credu bod gan y Palestiniaid hawl i wladwriaeth, ar un amod - bod y Palestiniaid yn parchu gwladwriaeth Israel.”
Mae disgwyl i'r Arlywydd Trump ymweld ag Israel ddydd Llun. Bydd wedyn yn teithio i gynhadledd yn yr Aifft lle bydd rhyw ugain o arweinwyr rhyngwladol, gan gynnwys Keir Starmer, yn arwyddo’r cynllun am heddwch yn ffurfiol.
Bydd y 24-36 awr nesaf yn dyngedfennol i’r cytundeb cychwynnol am gadoediad. Y disgwyl yw y bydd yr holl wystlon Israelaidd sydd yn cael eu cadw yn gaeth yn Gaza yn cael eu rhyddhau.
Bydd cannoedd o garcharorion Palesteinaidd hefyd yn cael eu rhyddhau yn y cyfnod cyntaf yma.
Mae sawl maen tramgwydd posibl yn dilyn hynny.
Mae lluoedd Israel yn dal i feddiannu tua hanner tiriogaeth Gaza, mae gofyn i Hamas ildio’u harfau a’u hawdurdod yno. Ac mae tasg anferthol hefyd i gael cymorth dyngarol at boblogaeth sydd yn newynnu ac i ail-adeiladu talpiau mawr o Gaza.
Er bod croeso a chynnwrf am y cadoediad diweddaraf, mae heddwch hir-dymor yn bell o fod yn sicr o hyd.