Israel yn paratoi i dderbyn gwystlon fore Llun

Gaza

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Israel wedi dweud eu bod yn paratoi i dderbyn gwystlon Israelaidd, a gafodd eu cipio gan Hamas,  fore Llun. 

Mewn cynhadledd newyddion yn Tel Aviv brynhawn Sul, dywedodd Shosh Bedrosian mai oriau'n unig sy'n weddil cyn i hynny ddigwydd.  

Roedd dirprwy Arlywydd America, JD Vance wedi nodi rai munudau ynghynt y byddai'r broses o'i rhyddhau yn digwydd "unrhyw funud." 

Ond dywedodd Ms Bedrosian bod Israel yn disgwyl i'r ugain gwystl sy'n fyw gael eu rhyddhau i'r Groes Goch yn gynnar fore Llun. 

Ychwanegodd y byddan nhw yn cael eu trosglwyddo dros y ffin i Israel a'u cludo i ganolfan filwrol Re'im.

Bydd y gwystlon sydd wedi marw yn cael eu cludo i ganolfan fforensig er mwyn adnabod eu cyrff yn ffurfiol. 

Ddeuddydd ers i'r cytundeb cadoediad ddod i rym, mae lorïau yn cludo cymorth dyngarol yn cyrraedd Llain Gaza gydag adroddiadau fod 500 o gerbydau wedi cael mynediad yno erbyn hyn. 

Mae 300 o'r lorïau wedi eu hanfon gan y Cenhedloedd Unedig a sefydliadau eraill. 

O dan y cytundeb, mae "cymorth dyngarol llawn" i fod i gyrraedd Llain Gaza ar unwaith.

Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Syr Keir Starmer yn ymuno ag Arlywydd America, ar gyfer uwch gynhadledd heddwch yn yr Aifft ddydd Llun.

Yn y cyfarfod hwnnw, bydd cynllun cadoediad Gaza yn cael ei arwyddo, yn ôl Downing Street. 

Bydd Syr Keir Starmer ymhlith 20 o arweinwyr rhyngwladol yn yr uwch gynhadledd yn Sharm El-Sheikh. 

Yn ôl yr awdurdodau yn yr Aifft, y bwriad yw trafod heddwch a sefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol. 

Yn unol â'r cytundeb, mae gan Hamas tan 12:00 ddydd Llun i ryddhau yr holl wystlon Israelaidd. 

Yn gyfnewid am hynny, mae disgwyl i Israel ryddhau 1,700 o bobl sydd dan glo yn Gaza a thua 250 o garcharorion Palesteinaidd.  

Llun: Amnesty International

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.