Rhybuddion melyn am wynt a glaw ar draws Cymru

Rhybudd tywydd

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion a glaw ar draws Cymru gyfan ar ddechrau'r wythnos.

Mae’r rhybudd ar gyfer glaw yn dod i rym am 18:00 ddydd Llun hyd at 18:00 ddydd Mawrth ac mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld glaw trwm ar draws y rhan helaeth o dde Cymru.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd y gallai 60-80mm o law gwympo ar dir uchel yn ne Cymru gyda rhwng 80-100mm yn bosib ar fryniau agored, a bod siawns am lifogydd.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd: “Mae ansicrwydd o hyd ynglŷn â’r union fanylion, ond mae disgwyl ardaloedd o law trwm ar draws de Cymru."

Mae’r rhybudd tywydd yn berthnasol yn y siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Sir Benfro
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Ceredigion
  • Sir Gaerfyrddin
  • Sir Fynwy
  • Merthyr Tudful
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Torfaen

Gwynt

Mae yna hefyd rybudd am wynt rhwng 22.00 ddydd Llun a 16:00 ddydd Mawrth.

Gallai'r gwyntoedd achosi hyrddiadau rhwng 40 a 50 milltir yr awr, gyda rhai mannau arfordirol a thir uchel yn debygol o wynebu gwyntoedd dros 70 milltir yr awr ar draws gogledd orllewin Cymru.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai’r storm achosi difrod i adeiladau ac effeithio ar gyflenwadau pŵer.

Ychwanegodd y gallai hefyd effeithio ar drafnidiaeth.

Mae’r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol yng Nghymru:

  • Abertawe
  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Dinbych
  • Gwynedd
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Ynys Môn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.