Achos llys Emiliano Sala Caerdydd yn erbyn Nantes yn cychwyn

Emiliano Sala - Llun CPD Caerdydd

Bydd achos llys clwb pêl-droed Caerdydd yn erbyn clwb pêl droed Nantes ynglŷn â marwolaeth Emiliano Sala yn cychwyn ddydd Llun.

Mae Caerdydd yn ceisio hawlio dros £100 miliwn gan y clwb o Ffrainc.

Maent yn dweud bod yr arian ar gyfer costau trosglwyddo'r pêl droediwr Sala a cholledion enillion eraill.

Fe fuodd Emiliano Sala oedd yn 28 oed farw ym mis Ionawr 2019 pan blymiodd yr awyren yr oedd yn teithio arni i'r môr ger Ynys y Garn (Guernsey).

Roedd ar ei ffordd o glwb pêl droed Nantes yn Ffrainc, lle’r oedd yn chwarae, i’w glwb newydd yng Nghaerdydd.

Roedd cytundeb gwerth £15m rhwng y clybiau wedi ei gytuno.

Cafodd o a'r peilot, David Ibbotson eu lladd.

Yn ddiweddarach fe ddaeth hi i'r amlwg bod yr awyren heb drwydded. Ym mis Hydref 2021 cafodd y dyn wnaeth drefnu'r awyren, David Henderson, ei ganfod yn euog o beryglu diogelwch awyren. Cafodd ddedfryd o 18 mis yn y carchar. 

Y cefndir 

Mae'r dadlau rhwng y ddau glwb pêl droed wedi bod yn rhygnu ymlaen ers blynyddoedd.

Fe wnaeth Caerdydd wrthod talu'r taliad cyntaf o'r ffioedd trosglwyddo wedi'r ddamwain. Roedden nhw am i'r ymchwiliadau i'r hyn ddigwyddodd ddod i ben gyntaf.

Yn y pendraw roedd yn rhaid i gorff llywodraethu pêl droed y byd, Fifa orchymyn i'r adar Gleision dalu. Er i Gaerdydd apelio'r penderfyniad cafodd yr apêl ei wrthod. Fe dalodd y clwb o Gymru'r taliad cyntaf ym mis Ionawr 2023 a thalu'r hyn oedd yn weddill.

Ond flwyddyn yn ddiweddarach fe ddechreuodd Caerdydd achos yn erbyn Nantes. Mae'r clwb wedi amcangyfrif colledion o dros £100 miliwn am resymau ariannol ac enw da'r clwb ar ôl iddyn nhw fynd i lawr i gynghrair is yn 2019.

Bydd yr achos llys yn digwydd yn Ffrainc.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.