Arweinwyr Ewropeaidd yn cwrdd â Zelensky yn Stryd Downing
Fe fydd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer yn croesawu Volodymyr Zelensky ac arweinwyr Ewropeaidd i 10 Stryd Downing ddydd Llun er mwyn trafod cynlluniau heddwch yn Wcráin.
Bydd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron a Changhellor yr Almaen, Friedrich Merz yn rhan o’r cyfarfod.
Y bwriad yw trafod sut i ymateb i gynigion yr Unol Daleithiau ar gyfer dod â'r rhyfel â Rwsia i ben.
Dros y penwythnos, dywedodd Mr Zelensky ei fod wedi trafod y "camau nesaf" gyda chynghorwyr Donald Trump a'i fod yn "benderfynol o barhau i weithio” gyda nhw.
Mae'n debygol y bydd Wcráin a'i chynghreiriaid Ewropeaidd yn mynnu bod unrhyw gadoediad yn dod gyda gwarantau diogelwch gan yr Unol Daleithiau a gwledydd Ewrop.
Mae Rwsia wedi gwrthod dro ar ôl tro'r posibilrwydd y gallai milwyr gwledydd eraill gael eu lleoli yn Wcráin.
Mae hefyd yn parhau i fynnu cael darnau helaeth o diriogaeth Wcráin yn gyfnewid am heddwch.
Daw wrth i luoedd Rwsia barhau â'u hymosodiad ar Wcráin dros y penwythnos.
Heb 'ddarllen y cynnig'
Lladdwyd o leiaf bedwar o bobl mewn ymosodiadau drôn a thaflegrau ddydd Sul. Mae Moscow hefyd yn parhau i dargedu seilwaith ynni Wcráin dros y gaeaf.
Daw cyfarfod dydd Llun yn sgil cyhoeddi strategaeth diogelwch cenedlaethol newydd yr Unol Daleithiau. Mae'r strategaeth honno yn nodi bod gwella cysylltiadau â Moscow yn un o flaenoriaethau Washington.
Fe groesawodd llefarydd y Kremlin, Dmitry Peskov, y ddogfen, gan ddweud ei bod yn unol â gweledigaeth Moscow ei hun.
Ddydd Sul, dywedodd Mr Trump wrth ohebwyr nad oedd Mr Zelensky "yn barod" i lofnodi'r cynnig heddwch a ysgrifennwyd gan yr Unol Daleithiau.
"Rwy'n siomedig nad yw'r Arlywydd Zelensky wedi darllen y cynnig eto, roedd hynny ychydig oriau yn ôl. Mae ei bobl wrth eu bodd ag ef, ond nid yw ef wedi ei darllen," meddai.
“Mae ei bobl wrth eu bodd. Ond dydy e ddim yn barod.”