Dewis gwrthwynebwyr Cwpan Cymru ‘yn fyw' yn y dyfodol

Noel Mooney

Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud y bydd gwrthwynebwyr Cwpan Cymru yn cael eu tynnu o het yn fyw ar yr awyr yn y dyfodol.

Fe gafodd y gymdeithas eu cyhuddo o “danseilio hygrededd” y gwpan. Daeth hyn ar ôl i gemau rownd 16 olaf y gwpan gael eu datgelu o flaen llaw cyn i'r seremoni i dynnu enwau o'r het gael ei darlledu.

Dywedodd y gymdeithas eu bod wedi recordio’r seremoni rai dyddiau o flaen llaw a'u bod yn “ymchwilio i’r mater” er mwyn deall sut y cafodd y gemau a oedd dan embargo eu datgelu’n gynnar.

Mae Prif Weithredwr y gymdeithas, Noel Mooney bellach wedi dweud eu bod nhw’n cyd-weithio â darlledwyr i sicrhau bod y seremoni yn cael ei darlledu yn fyw yn y dyfodol.

“Nid yw’n ddirgelwch ein bod ni’n gweithio i wella o hyd ac rydyn ni’n gwneud hynny drwy wrando ar y bobl sy’n bwysig - y clybiau a’r cefnogwyr,” meddai mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Fe wnaethon ni drio creu cynhyrchiad o safon felly mae hyn yn cymryd tipyn o waith (ac arian!) ond mae’n glir y dylen ni symud hyn i fod yn fyw.

“Felly rydyn ni’n gweithio gyda darlledwyr i wneud iddo ddigwydd.”

Roedd CPD Y Fflint ymysg y rheini oedd wedi codi amheuon am y penderfyniad i beidio â darlledu'r tynnu enwau yn fyw gan ddweud ei fod yn codi cwestiynau am “hygrededd y seremoni”.

Dywedodd Cadeirydd y clwb, Darryl Williams, ar y pryd: “Os mae’n wir fod yr enwau wedi’u tynnu nos Fawrth, yna mae hygrededd y broses wedi’i danseilio’n gyfan gwbl.

"Wrth recordio’r enwau’n cael eu tynnu, mae modd ei stopio/newid. Mae tynnu enwau yn digwydd yn fyw er mwyn cynnal ei hygrededd a gonestrwydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.