'Bod gyda'n gilydd yn helpu' meddai teuluoedd merched Southport

Merched Southport

Mae teuluoedd y tair o ferched a gafodd eu lladd mewn dosbarth dawnsio yn Southport wedi dweud bod bod gyda'i gilydd yn eu helpu gyda'u galar.

Cafodd Elsie Dot Stancombe, oedd yn saith oed, Bebe King, chwech oed, a Alice da Silva Aguiar, naw oed, eu llofruddio ym mis Gorffennaf y llynedd.

Cafodd wyth o blant a dau oedolyn hefyd eu hanafu.  

Mewn rhaglen ddogfen ar y BBC mae Jenni Stancombe, mam Elsie yn dweud bod y teuluoedd wedi bod "gyda'i gilydd yn ystod rhai o'r sgyrsiau mwyaf anodd".

"Ond gyda'n gilydd, rhwng y chwech ohonom ni, rydyn ni wastad rhywsut yn llwyddo i weld y goleuni," meddai.

Mae BBC Breakfast wedi bod yn dilyn y teuluoedd am y naw mis diwethaf fel rhan o raglen ddogfen. Mae'r rhaglen yn sôn am sut mae'r teuluoedd yn ceisio creu gwaddol parhaol yn enwau'r merched. Mae'r camerâu hefyd yn eu dilyn wrth iddynt agor lle chwarae newydd er cof am eu plant.

Doedd y teuluoedd ddim yn adnabod ei gilydd cyn yr ymosodiad. 

'Bendith'

Ond yn ôl Lauren King, mam Bebe, mae cyfarfod wedi bod yn "hanfodol i'n goroesiad ni" ac yn "fendith".

Roedd y merched yn caru dawnsio a pherfformio meddai.

"Fe allwn ni siarad am ein merched, y pethau tebyg rhyngddyn nhw," meddai.

Dywedodd mam Alice, Alexandra Aguiar: "Dwi'n teimlo yn agosach at Alice pan dwi gyda nhw (y rhieni eraill). Dwi'n teimlo mwy o gysylltiad gyda'r merched."

Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys deunydd fideo o'r merched sy'n cael ei rhannu am y tro cyntaf yn gyhoeddus.

Gwaddol 

Yn y cyfweliadau mae'r rheini yn dweud cymaint yr oedd ei merched yn edrych ymlaen at fynd i'r gweithdy dawnsio Taylor Swift cyn iddyn nhw farw.

"Fe aeth hi jest i ddawnsio a gwneud breichledau ond ddaeth hi byth adref," meddai Mrs Stancombe am ei merch Elsie.

Mae prosiectau gwaddol wedi eu sefydlu ar gyfer y tair merch ers iddyn nhw farw. Yn eu plith mae Alice's WonderDance sydd yn cefnogi perfformwyr ifanc trwy ddarparu gwisgoedd, trafnidiaeth a dosbarthiadau. 

Elusen sydd yn rhoi grantiau i helpu pobl ifanc a chefnogi pobl yn ardal Southport yw Elsie's Story. Prosiect arall maen nhw wedi helpu yw Bebe's Hive sef canolfan greadigol sydd yn cynnig cefnogaeth i blant sydd yn galaru. 

"Pan rydyn ni yn dod at ei gilydd, mae rhywbeth yn cymryd drosodd- fel ein bod ni wedi ein hamddiffyn," meddai Mr King. 

Ychwanegodd ei wraig, "Rydyn ni wedi helpu ein gilydd trwy hyn, rydyn ni wedi cael teulu estynedig."

Bydd rhaglen Our Girls: The Southport Families ar BBC 1 nos Fawrth, 9 fed o Rhagfyr am 20:00. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.