Arestio dyn o Lanberis wedi i offer gael ei ddwyn o safle ffilmio rhaglen BBC

Criw DIY SOS

Mae dyn o Lanberis wedi ei arestio wedi i offer gael ei ddwyn o safle lle'r oedd rhaglen deledu BBC yn cael ei ffilmio.

Mae'r rhaglen DIY SOS wedi bod yn ffilmio yn Llanberis ac mae'r heddlu yn dweud bod yr offer wedi ei ganfod a'i ddychwelyd erbyn hyn.

Y gred yw mai berfâu (wheelbarrows) a chymysgwyr sment oedd wedi eu dwyn.

Nick Knowles sydd yn cyflwyno'r rhaglen DIY SOS a'r nod yw cael help ffrindiau, teulu a chrefftwyr lleol i drawsnewid cartrefi ac adeiladau ar draws Prydain.

Image
Cymysgwr sment gafodd ei ddwyn
Llun: Heddlu'r Gogledd 

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fe ddiolchodd DIY SOS i'r heddlu am eu help.

"Rydyn ni yn falch i ddweud bod y berfâu a'r cymysgwyr wedi eu darganfod," medden nhw.

"Diolch yn fawr i Heddlu Gogledd Cymru am eu cefnogaeth dros y dyddiau diwethaf.

"Er nad yw'r tywydd wedi bod o'n plaid mae cymuned Llanberis wedi bod yn anhygoel ac rydyn ni mor ddiolchgar i bob un crefftwr, cyflenwr a gwirfoddolwr sydd wedi rhoi eu hamser a'u sgiliau er mwyn cwblhau'r adeilad."

Dywedodd Heddlu'r Gogledd mewn neges nos Sul bod dyn wedi ei arestio a'i fod yn y ddalfa.

Yn ôl Heddlu'r Gogledd fe fydd yna fwy o bresenoldeb yr heddlu o gwmpas y pentref yn ystod y dyddiau nesaf. 

Llun: Criw DIY SOS o wefan Facebook y rhaglen 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.